Back
Gwahodd preswylwyr i blannu bylbiau i greu dinas sy’n caru gwenyn

05.01.2022

A picture containing tree, outdoor, person, plantDescription automatically generated

Mae gwirfoddolwyr, grwpiau Cyfeillion, trigolion a staff y cyngor wedi bod wrthi'n brysur yn plannu 11,000 o fylbiau-a'r flwyddyn newydd hon, gwahoddir mwy owirfoddolwyr i helpu i gadw Caerdydd yn ei blodau.

Cynhaliwyd digwyddiadau plannu bylbiau arbennig ym Mharc Bute; Gerddi Jellicoe, Cyncoed; Fferm y Fforest, Gerddi'r Santes Fair, yr Eglwys Newydd a Littleton Street, Glan yr Afon,i gynorthwyo pryfed peillio a gwella bioamrywiaeth.

Ariannwyd y bylbiaudrwy Brosiect Pryfed Peillio Caerdydd a gefnogir gan Bartneriaeth Natur Leol Caerdydd a chynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Meddai Samantha Eaves, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Caerdydd:"Mae clychau'r gog brodorol y DU, garlleg gwyllt, tiwlipau a'r lili wen fach ymhlith rhai o'r bylbiau sydd wedi'u plannu i ddarparu neithdar yn gynnar yn y gwanwyn i bryfed sy'n peillio ac ychwanegu ychydig o liw at ein parciau a'n mannau gwyrddion."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:"Un o'n hamcanion yw tyfu a rheoli ein mannau gwyrddion yng Nghaerdydd a fydd ynhelpu i greu cynefinoedd newydd i gynorthwyo bywyd gwyllt.

"Bydd y bylbiau hyn yn blaguro yn y gwanwyn, a ystyrir yn draddodiadol yn amser ar gyfer dechrau o'r newydd, ac yn rhoi llawer o lawenydd i'r cymunedau lleol ac o fudd i fywyd gwyllt wrth i'r tymhorau newid ar ôl y misoedd hir, gaeafol hyn.

"Mae hwn yn brosiect cymunedol gwych.  Mae'n dda gweld cymaint o bobl yn cydweithio, diolch i bawb am eu holl waith caled."

Gwahoddir grwpiau cymunedol yng Nghaerdydd i wneud cais am blanhigion, hadau, offer a chyfarpar sy'n werth hyd at £500 ar gyfer prosiectau i warchod a gwella bioamrywiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, anfonwch e-bost at Samantha Eaves, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Caerdydd,bioamrywiaeth@caerdydd.gov.uk