5/1/22
Gall addysg dda drawsnewid bywydau, ond a all adeilad drawsnewid addysg?
Wel, yr ateb byr yw gall, yn ein barn ni - dyna pam rydyn ni'n buddsoddi £450 miliwn mewn cyfleusterau newydd ac wedi'u huwchraddio ar draws y ddinas drwy ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Bu Martin Hulland, pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, sef yr ysgol newydd yn Nhrelái, yn goruchwylio'r symudiad o'r hen adeiladau a oedd, yn ei eiriau ef, yn "hen ac wedi dirywio" a "ddim digon da...".
Yn y cyfleusterau newydd trawiadol hyn...
Yn y fideo hwn, mae'n esbonio'r effaith y mae'r adeiladau wedi'i chael: https://youtu.be/Q1zbLyaQ5ZM
Tipyn o drawsnewidiad. Roedd y dyfyniad hwn yn tynnu ein sylw ni: "yn bennaf oll yr hyn y mae'r adeilad newydd wedi ein galluogi i'w wneud yw gwella ansawdd y dysgu yn yr ystafell ddosbarth."
Ac nid yng Ngorllewin Caerdydd yn unig - ers 2017, yn ogystal ag uwchraddio llawer o ysgolion rydym wedi agor dwy ysgol uwchradd a chwe ysgol gynradd newydd sbon yng Nghaerdydd.
Yn ogystal ag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, mae Ysgol Uwchradd y Dwyrain ar gampws dysgu a rennir arloesol gyda Choleg Caerdydd a'r Fro.
Ac o ran ysgolion cynradd, mae Pontprennau, Howardian, Ysgol Hamadryad, Gabalfa, Ysgol Glan Ceubal, ac Ysgol Glan Morfa yn Sblot - sef yr ysgol yn y llun hwn.
Ymwelsom â'r ysgol gynradd Gymraeg hon yn Sblot, i ddarganfod a yw eu hadeiladau newydd wedi cael yr un effaith ag y maen nhw wedi'i chael ar lefel uwchradd.
Dyma beth gwnaethom ei ddarganfod gan y pennaeth Meilir Tomos: https://youtu.be/qlgdYXcn9xY
Mae'n ysbrydoledig. Dyna pam nad ydym wedi gorffen eto.
Ym mis Ebrill diwethaf, dechreuodd y gwaith ar Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan - buddsoddiad o £64 miliwn yn y gymuned. Pan fydd y gwaith wedi'i orffen, bydd gan yr ysgol 100 o ystafelloedd dosbarth, 4 cae chwaraeon a phwll nofio 25m, a bydd yn edrych rhywbeth fel hyn...
Ac ym mis Hydref 2021, datblygwyd cynlluniau i ddod â'r math o fuddion addysgol a oedd eisoes ar gael i ddisgyblion Gorllewin Caerdydd i Cathays.
Byddai'r cynlluniau'n golygu bod Ysgol Uwchradd Cathays newydd yn cael ei chyflwyno fel rhan o gynllun buddsoddi â blaenoriaeth a gynlluniwyd i drawsnewid y profiad dysgu.
Ar hyn o bryd, mae'r adeiladau mewn cyflwr gwael, gyda diffygion mawr a phroblemau cynnal a chadw - ar ben hynny, mae canran sylweddol o boblogaeth yr ysgol yn dysgu mewn llety dros dro.
Mae angen ysgol newydd i helpu i alluogi disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae rhagor o fanylion am yr hyn rydym yn ei gynllunio yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27716.html
Ond yn ei hanfod byddai'n golygu bod yr ysgol bresennol yn cael ei huwchraddio a'i gwella i ddarparu'r amgylchedd addysg mwyaf modern sydd ar gael i ddisgyblion.
Ac fel y gwelsom o effaith adeiladau newydd mewn ysgolion eraill, gall cyfleusterau o'r radd flaenaf helpu disgyblion i wireddu eu huchelgeisiau.
Ond ni fydd y cyfleusterau sydd wedi'u huwchraddio o fudd i'r disgyblion yn unig. Byddant o fudd i'r gymuned hefyd.
Mae gan ysgolion newydd gyfleusterau wedi'u huwchraddio - er enghraifft y cyfleusterau chwaraeon, stiwdio ddawns a mannau creadigol, fel y gwelir yn y lluniau hyn o Ysgol Gorllewin Caerdydd - cyfleusterau y gellir eu darparu hefyd i'w defnyddio gan gymunedau.
Bydd lle hefyd i'r gymuned leol barhau i gael mynediad i fannau agored oddi ar y ffordd at ddefnydd hamdden anffurfiol.
Hefyd, bydd yr ysgol yn cynnig darpariaeth estynedig i ddysgwyr â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig.
Ac wrth i ni sôn am ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, nid yn Cathays yn unig yr ydym yn bwriadu ehangu'r ddarpariaeth.
Ein huchelgais yw i bob plentyn allu manteisio ar gyfleoedd dysgu priodol a llwybrau priodol at addysg - felly rydym yn cynnig 467 o leoedd ychwanegol ledled Caerdydd.
Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27714.html
Mae gennym hefyd gynlluniau ar gyfer Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands - mwy am hynny ychydig yn ddiweddarach.
Ond yn ôl i'r adeiladau - mae adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows hefyd yn yr arfaeth, gyda disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach i gyd yn cael dweud eu dweud ar y cynlluniau dros yr haf.
Ar ôl ei hadeiladu, bydd yr ysgol newydd yn darparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i 900 o ddisgyblion - a chyfleusterau cymunedol newydd i breswylwyr eu mwynhau y tu allan i oriau ysgol.
Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27531.html
Ac nid ydym wedi sôn am y campws addysgol arloesol sy'n cael ei gynllunio yn y Tyllgoed eto - mae'n dwyn ynghyd Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Woodlands, ac Ysgol Riverbank ar un campws, gan alluogi pob ysgol i gadw ei hunaniaeth, ond elwa ar gyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu a rennir, mewn cyfleusterau newydd eu hadeiladu a fydd yn darparu'r profiad gorau posibl i ddisgyblion, athrawon a'r gymuned.
Yn unol â'n hymateb #CaerdyddUnBlaned i'r argyfwng hinsawdd, bydd yr adeiladau ysgol newydd hyn yn gweld cyflwyno targedau carbon sero-net.
Darllenwch fwy am y prosiect uchelgeisiol hwn yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27084.html
Ac oherwydd gwnaethom bennu targedau budd cymunedol ar gyfer cam codi adeiladau'r ysgol newydd - targedau sydd wedi cynnwys ein partneriaid adeiladu yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yn darparu swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau i bobl ifanc (gan gynnwys cyn-ddisgyblion) sy'n chwilio am yrfa yn y diwydiant - dylai'r buddion cymunedol fynd y tu hwnt i'r adeiladau eu hunain.
Ac os ydych chi'n meddwl, "beth am ysgolion cynradd?", efallai yr hoffech ddarllen y datganiad hwn i'r wasg am ein cynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth gynradd yng ngogledd-orllewin y ddinas, lle mae nifer o ddatblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27015.html
Mae mwy o gartrefi yn golygu mwy o deuluoedd a mwy o blant - plant sy'n haeddu ysgol wych. Dyna pam (yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus) mae gennym hyd yn oed mwy o gynlluniau, gan gynnwys ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch o 140 i 210 o leoedd, a sefydlu darpariaeth feithrin â 48 o leoedd (rhan-amser) a ariennir gan ddefnyddio cyfraniadau Adran 106 y cytunwyd arnynt gyda datblygwyr fel rhan o'r broses gynllunio.
Bydd cartrefi newydd yng ngogledd-ddwyrain y ddinas, yn natblygiad St Edern, hefyd yn cael ysgol gynradd newydd, drwy gyfraniadau Adran 106.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio i'r ysgol newydd ym mis Ebrill ac ar hyn o bryd disgwylir iddi fod yn barod i'r dysgu ddechrau yn y flwyddyn academaidd sy'n dechrau ym mis Medi 2022.
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26283.html
Mae'n adeilad mawr.
Mae'n fuddsoddiad mawr.
Gwerth £450 miliwn.
Oherwydd bod gobeithion, breuddwydion, a dyfodol llawer o ddisgyblion yn ein dwylo.
Rydyn ni'n meddwl ei fod yn werth chweil.