Back
Cyfleuster storio beiciau diogel cyntaf Caerdydd yn paratoi i agor i'r cyhoedd

10/01/22

Bydd cyfleuster diogel newydd i barcio beiciau dan do yn agor yng nghanol dinas Caerdydd yn gynnar yn 2022.

Mae Cyngor Caerdydd wedi ffurfio partneriaeth â'r fenter gymdeithasol, The Bike Lock Cyf, i gyflwyno'r prosiect cyffrous hwn gan ddefnyddio cyllid o grant Teithio Llesol Comisiwn Burns Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyfleusterau y mae mawr eu hangen yn agor ar Blas Windsor yn gynnar yn 2022 a byddant yn cynnwys: 

  • Storio diogel ar gyfer o leiaf 50 o feiciau;
  • Cyfleusterau cawod, loceri a newid; a
  • Man gweithio o bell a bar coffi.

Mae cynlluniau i'r Bike Lock weithredu fel hyb ar gyfer dosbarthu beiciau cargo yng nghanol y ddinas hefyd yn cael eu hystyried.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne:   "Rydym yn falch iawn o weithio gyda Bike Lock Cyf i ddod â'r cyfleuster newydd cyffrous hwn i Gaerdydd. Rydym yn deall mor bwysig y mae hi i feicwyr wybod eu bod yn gallu storio eu beiciau'n ddiogel yn y ddinas a gobeithiwn mai dim ond man cychwyn yw hyn ar gyfer nifer o fentrau tebyg fydd yn gwella'r opsiynau i feicwyr."

Fel y cyfleuster cyntaf o'i fath yng Nghymru, bydd y Bike Lock yn helpu'r Cyngor a phartneriaid i gael gwell dealltwriaeth o alw a gofynion cwsmeriaid gan helpu i ddatblygu cyfleusterau tebyg eraill a mwy o faint o bosibl mewn mannau eraill yng Nghaerdydd yn y dyfodol.

Dywedodd Tom Overton, Sylfaenydd/Cyfarwyddwr y Bike Lock: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau.  Mae ein hymchwil yn dangos bod gwir awydd am y math hwn o gyfleuster. Bydd y Bike Lock yn cynnig opsiynau 'talu wrth ddefnyddio' ochr yn ochr ag aelodaeth fisol, a byddwn hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr canol y ddinas fel y gallant gynnig y gwasanaeth i'w gweithwyr i annog teithio llesol i'r ddinas. Mae'n brosiect cyffrous iawn sydd â gwir botensial i dyfu ledled y ddinas."

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth: "Er mwyn cael cynnydd sylweddol yn lefelau cerdded a beicio mae angen i ni gael nifer o bethau'n iawn. Mae cael llefydd diogel i adael eich beic pan fyddwch yn mynd i'r siopau, i weithio neu i ddal y trên yn rhan bwysig o'r pecyn o fesurau sydd eu hangen arnom."

Drwy ddarparu cyfleuster parcio beiciau cwbl ddiogel yng nghanol dinas Caerdydd, bydd y Bike Lock yn helpu i gyflawni argymhelliad allweddol gan Gomisiwn Burns ynglŷn â storio beiciau mewn cyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus ac o fewn canolfannau trefol.

Cynyddodd lefelau beicio yng Nghaerdydd yn amlwg yn ystod pandemig Covid-19 ac amcangyfrifir eu bod yn fwy na 10% yn uwch nag yr oeddent yn 2019. Dangosodd arolygon ar gyfer adroddiad Bywyd Beicio Caerdydd yn 2019 fod tua thri chwarter trigolion Caerdydd yn cefnogi'r gwaith o adeiladu lonydd beicio ar wahân. Bydd cyfleusterau fel y Bike Lock yn cynnig lle diogel i feicwyr adael eu beiciau pan fyddant yn teithio i'r gwaith neu i ymweld â chanol y ddinas ac maen nhw'n cael eu hystyried yn elfennau allweddol wrth annog pobl i feicio i Gaerdydd.

I gael gwybod mwy ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch @thebikelock ar Twitter