Back
Netflix yn rhoddi Meinciau Gobaith i barciau Caerdydd i goffáu 'After Life' Ricky Gervais

17.01.2022

A person sitting on a benchDescription automatically generated with medium confidence

Mae dau o barciau Caerdydd wedi derbyn Meinciau Gobaith, a roddwyd gan Netflix i goffáu After Life Ricky Gervais, i greu lle i drigolion siarad neu fyfyrio.

Bydd Parc Fictoria a Pharc Cefn Onn yn elwa o fainc bren gyda phlac, y bwriedir eu gosod ddydd Mercher 19 Ionawr.

Mae'r meinciau wedi'u comisiynu ochr yn ochr â'r elusen atal hunanladdiad Campaign Against Living Miserably (CALM) - sy'n cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth i unrhyw un sy'n cael trafferth neu mewn argyfwng. 

Mae'r gyfres After Life yn tynnu sylw at y rhai sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â phrofedigaeth, unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl.

Bydd y rhai sy'n ymweld â mainc yn gallu cael gafael ar adnoddau o gan CALM drwy god QR unigryw gyda'r geiriad "Gall bywyd fod yn anodd, ond mae gobaith bob amser. Mae'r Campaign Against Living Miserably (CALM) wrth eich ochr chi", ac ar-lein drwy ymweldwww.thecalmzone.net/afterlife

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rwy'n falch iawn y bydd Parc Fictoria a Pharc Cefn Onn yn elwa ar y meinciau hyn.

"Dyma'r ategiad perffaith i dair mainc borffor 'Hapus i Sgwrsio' Cyngor Caerdydd ym Mharc y Rhath, Parc Hailey a Pharc Bute gan eu bod i gyd wedi'u gosod i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd neu gynnig cyfle i bobl siarad â rhywun arall, waeth beth fo'u hamgylchiadau.

"Wrth i'r tywydd barhau i wella a'r cyfyngiadau'n parhau i lacio, bydd meinciau Meinciau Gobaith a Hapus i Sgwrsio yn y parciau hyn yn caniatáu pobl i gwrdd ag eraill, teimlo'n gysylltiedig â'u cymuned a helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd."

Dywedodd Ricky Gervais:  "Rydym yn gobeithio y bydd y meinciau'n creu etifeddiaeth barhaol ar gyfer After Life, yn ogystal â dod yn lle i bobl ymweld ag ef, ac rydym wrth ein bodd o fod yn gysylltiedig â CALM a'r gwaith gwych y maent yn ei wneud."

Dywedodd Simon Gunning, Prif Swyddog Gweithredol CALM:  "Mae meinciau'r parc yn cynnig cyfleoedd i fyfyrio, siarad â rhywun, eistedd ysgwydd wrth ysgwydd gyda rhywun a bwrw eich bol. Dyna pam rydym yn falch iawn o ymuno â Netflix i roi meinciau mewn parciau ledled y wlad - wedi'u harysgrifio gyda'r llinell hollbwysig honno o'r sioe, 'Hope is everything' - i helpu pobl i gael y sgyrsiau hynny ac i ddangos ei bod yn arferol cael y teimladau hynny."

I nodi lansiad cyfres olaf After Life, mae Netflix wedi rhoi 25 mainc i gynghorau lleol ledled y DU mewn mannau o ddiddordeb.