Mae llawer i'w wneud cyn cwblhau'r cynllun – mae’r maes
cynllunio'n gymhleth, ac mae disgwyl i'r holl broses gymryd tair blynedd.
Ar hyn o bryd rydym yng ngham dau y broses - yn gofyn i
drigolion am eu barn ar amrywiaeth o opsiynau ar dwf tai a swyddi ar gyfer y
ddinas, hyd at 2036. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hynny, a chael dweud
eich dweud, yma: https://cdllcaerdydd.ymgynghoriad.ai/
Mae’n bwysig iawn cynnwys pawb yn y gwaith allweddol hwn.
Felly, cymerwch ran - mae eich barn o bwys.
Cam cyntaf y broses oedd ymgynghori ar ein gweledigaeth
ddrafft ar gyfer y CDLl newydd. Dros yr
haf cymerodd dros 1200 o drigolion ran yn ein harolwg ar-lein, gan rannu eu
barn.
Efallai nad yw hynny'n swnio'n llawer, ond ar gyfer
ymgynghoriad ar strategaeth gynllunio, mae'n ffigur eithaf da.
Ond beth ddywedoch chi wrthym? A beth mae hynny wedi ei
newid?
Wel, gallwch ddarllen canlyniadau llawn yr ymgynghoriad
yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s51432/Appendix%203%20Summary%20of%20consultation%20and%20engagement%20findings%20-Part%201%20Findings%20from%20Questionnaire%20Surv.pdf?LLL=0
Ond i’r rhai nad oes amser gennych (nac amynedd) i
lafurio drwy bob un o'r 141 tudalen, dyma rai ystadegau rydyn ni’n meddwl fydd
o ddiddordeb.
·
Ar y cyfan, roedd
cefnogaeth ar gyfer llai o dwf tai (46%), ond roedd pobl o dan 35 oed, a phobl
sy'n nodi eu bod yn anabl, eisiau gweld mwy o dai’n cael eu codi, gyda llawer
yn sôn am brinder tai fforddiadwy.
·
Teimlai 36.5% mai dim ond
safleoedd tir llwyd a ddylid eu defnyddio ar gyfer tir tai newydd, o'u cymharu
â’r 2.3% a oedd yn ffafrio safleoedd maes glas ar gyfer cartrefi newydd, a’r
10.8% a ddewisodd y man canol rhwng y ddau.
·
Nododd un rhan o bump o'r
ymatebwyr (19.4%) y dylai'r cynllun geisio blaenoriaethu mathau cynaliadwy o
drafnidiaeth, o'u cymharu â 4.3% a oedd yn blaenoriaethu defnyddio ceir
preifat, a 12.2% yn ffafrio cydbwysedd rhwng y ddau.
·
Ystyrid mai 'Mynd i'r
afael â’r newid yn yr hinsawdd' oedd amcan pwysicaf y cynllun drafft, gyda
45.4% yn ei roi yn eu tri amcan uchaf, a 27.4% yn ei nodi fel yr amcan pwysicaf
oll.
·
Dilynwyd hyn gan
'amgylcheddau iachach', gyda 38.8% yn ei roi yn eu tri amcan uchaf, a 6.0% yn
ei roi’n gyntaf. Rhoddodd 36.3% ‘Diogelu seilwaith glas a gwyrdd (pethau fel
mannau gwyrdd, coed, afonydd) yn eu tri amcan uchaf, a rhoddodd 10.2% hwn yn
gyntaf.
Felly dyna a ddywedoch wrthym. Gwnaiff hyn wahaniaeth
wrth i ni fynd drwy’r broses, ac mewn gwirionedd, mae eisoes wedi, oherwydd
rydym wedi adolygu’r weledigaeth ac amcanion ein CDLl yn sgil eich ymatebion,
gan addasu rhai o’r amcanion ac ychwanegu rhagor o fanylion.
Rhai enghreifftiau o'r newidiadau hyn yw:
·
Yn hytrach na dim ond
codi "mwy o gartrefi i fynd i'r afael ag anghenion tai yn y dyfodol"
bydd y CDLl bellach yn ceisio adeiladu "mwy o gartrefi carbon-isel" i
fynd i'r afael â'r angen hwnnw.
·
A bydd y cynllun newydd
yn sicrhau yr “hyrwyddir datblygiadau yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy ac y
defnyddir tir yn effeithlon gan flaenoriaethu 'tir llwyd yn gyntaf'.”
·
Ychwanegwyd llinellau ar
gynyddu’r "canopi coed ar draws y ddinas" a chefnogi
"bioamrywiaeth ehangach" hefyd.
Gallem fynd ymlaen, ond mae'n siwr o fod yn haws os ydych
yn darllen y weledigaeth a'r amcanion diwygiedig llawn. Gallwch eu canfod yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s51429/Appendix%201%20Replacement%20Local%20Development%20Plan%20Vision%20and%20Objectives%20V0.23.pdf?LLL=0
Felly diolch i bawb a rannodd eu meddyliau ac a gafodd
ddweud eu dweud.
Mae llawer i'w wneud ac mae'n deg dweud, pan ddaw'n fater
o gynllunio, bod y manylion yn hollbwysig, ond gobeithio y gallwch weld eisoes
o'r newidiadau hyn bod eich barn chi, ochr yn ochr â barn pobl eraill, yn
gwneud gwahaniaeth go iawn.
Y cam nesaf yw i ni ddatblygu 'Strategaeth a Ffefrir' –
fersiwn ddrafft o'r CDLl mwy neu lai, gyda llawer o fanylion am safleoedd,
polisïau a chynlluniau strategol. Dylai
honno fod yn barod yn yr hydref 2022 a byddwn yn gofyn am eich barn arni bryd
hynny.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod o hyd i fwy am sut
mae'r system gynllunio'n gweithio, fe gyhoeddon ddalen Holi ac Ateb y llynedd a
allai fod yn ddefnyddiol. Mae honno i’w chanfod yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26664.html