Back
Tair menter yng nghanol dinas Caerdydd yn elwa o raglen benthyciadau Trawsnewid Trefi

 19/01/22

Mae tri adeilad allweddol yng nghanol dinas Caerdydd wedi sicrhau benthyciadau di-log o £2.35m gan raglen benthyciadau Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, drwy Gyngor Caerdydd i helpu gyda chynlluniau adfywio ac addasu at ddibenion gwahanol.

Yn unol â Strategaeth Adfer yr awdurdod ar gyfer canol y ddinas, mae'r Cyngor wedi defnyddio ei gyllid benthyciad i gefnogi'r mentrau canlynol: 

• Rhif 30-31 Plas Windsor Addasu'r adeilad rhestredig hwn yn swyddfeydd a mannau deori ar gyfer busnesau technoleg a thechnoleg ariannol blaenllaw.

• Imperial Gate, Heol Eglwys Fair isaf. Addasu'r hen glwb nos hwn yn atyniad hamdden newydd ar thema golff.

• Adeilad Asador 44 yn Stryd y Cei i droi'r lloriau uchaf gwag yn westy boutique.

Dyfarnwyd yr arian benthyg i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ac mae'r gronfa wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol yn adfywio adeiladau fel y Tramshed yn Grangetown, a Gorsaf Reilffordd Butetown yn fannau busnes allweddol. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, Lee Waters:  "Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi symiau sylweddol i roi'r hwb hwn i Gaerdydd nid yn unig i adfer adeiladau, ond i adfer hyder yng nghanol y ddinas ar ôl cyfnod anodd."

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Mae'r pandemig COVID wedi effeithio ar ganol y ddinas lle gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn gweithgarwch busnes gan arwain at gynnydd mewn gofod gwag yn y stoc eiddo yng nghanol Caerdydd. Felly rwy'n falch iawn o allu canolbwyntio adnoddau'r Cyngor ar addasu'r adeiladau hyn at ddibenion gwahanol, gan gefnogi busnesau i ddod â defnydd  cynaliadwy newydd i ganol y ddinas. Bydd hyn yn helpu'r ddinas i adfer ar ôl y pandemig, creu swyddi, a chyfrannu at adferiad nifer yr ymwelwyr. Mae rhaglen Benthyciadau'r Cyngor a gefnogir gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi dangos ei heffeithiolrwydd wrth gynorthwyo busnesau i adfywio adeiladau bregus ledled Caerdydd. Mae'r Tramshed a Gorsaf Reilffordd Butetown yn enghreifftiau disglair o'r hyn y gellir ei gyflawni.  Edrychaf ymlaen at weld y busnesau newydd hyn, sydd wedi sicrhau cyllid, yn ffynnu yn yr un modd."