Back
Gwaith i gychwyn ar hyb ymwelwyr cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien

21.01.2022

A group of men in orange vests standing on a dirt roadDescription automatically generated with low confidence

  • Mae gwaith ar gychwyn i greu hyb atyniad ymwelwyr yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien
  • Penodwyd contractwyr lleol, BECT Building Contractors o Gaerdydd, i adeiladu'r ganolfan ymwelwyr
  • Mae'r dyluniad yn cynnwys nifer o ffactorau i wella nodweddion gwyrdd y safle a lleihau ei ôl troed carbon

Bydd Dŵr Cymru'n dechrau gwaith i adeiladu hyb atyniad ymwelwyr y bu disgwyl mawr amdano yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien.

Bydd gwaith y cwmni dŵr nid er elw yn dechrau diwedd Ionawr 2022, a chaiff ei gyflawni ym mhen gogleddol y safle. Bydd y gwaith yn creu hyb ymwelwyr deulawr â golygfeydd godidog dros y ddwy gronfa, a bydd yn cynnwys ystafelloedd newid, cawodydd a thoiledau ar gyfer chwaraeon dŵr, ystafelloedd hyfforddi ar gyfer y gymuned, a chaffi sy'n edrych allan dros brydferthwch y ddwy gronfa.

Yn y pen-draw, bydd gwaith Dŵr Cymru'n dod â hwylio nôl i'r gronfa, ynghyd ag amrywiaeth o chwaraeon dŵr gan gynnwys hwylfyrddio, rhwyf-fyrddio, canŵio, caiacio a chychod picnic trydan.

Bydd yn troi'r safle'n hyb ar gyfer addysg hefyd - gan greu Parth Dysgu ag ystafell ddysgu awyr agored a thŷ crwn Cymreig, gweithgareddau addysg dan arweiniad gofalwyr, a chyfleoedd i wirfoddoli a chael profiad gwaith.

Yn rhan o gynlluniau amgylcheddol y cwmni, mae dyluniad y ganolfan ymwelwyr yn cynnwys ffactorau i wneud nodweddion yr adeilad yn fwy gwyrdd ac i leihau ei ôl-troed carbon. Mae hyn yn cynnwys arae solar ffotofoltäig (PV) mawr ar y to, defnydd o nwyon 'gwyrdd' a gaiff eu cynhyrchu trwy drin carthffosiaeth Dŵr Cymru, system ddraenio gynaliadwy â storfeydd draenio danddaear, a gardd law i gasglu a hidlo dŵr glaw. Bydd yna system awyru sy'n adfer gwres yn yr ystafelloedd newid hefyd a chawodydd sy'n adfer gwres o ddŵr gwastraff.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori ac wrth baratoi ar gyfer cychwyn y gwaith adeiladu, mae'r cwmni wedi bod mewn cysylltiad â grwpiau cymunedol ac ysgolion lleol. Cafodd aelodau o'r gymuned leol wahoddiad i gofrestru mynegiant o ddiddordeb i ymuno â grŵp 'Cyfeillion' i weithio gyda Dŵr Cymru i greu digwyddiadau gwirfoddoli fel helpu gyda gweithgareddau rheoli cadwraeth. Caiff y grŵp newydd ei gefnogi gan raglen hyfforddi dan oruchwyliaeth, a chymorth i adfer ardal y coetir er mwyn cyfoethogi ei bioamrywiaeth ac amddiffyn rhannau mwyaf ecolegol sensitif y safle.

Mae'r cwmni wedi penodi BECT Building Contractors o Gaerdydd i gyflawni'r gwaith adeiladu ar y prosiect. Sefydlwyd BECT ym 1985, ac maent wedi cyflawni amrywiaeth o brosiectau blaenllaw ar draws de Cymru. Byddan nhw'n dechrau eu gwaith diwedd Ionawr 2022.

Dywedodd Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Mae dechrau'r gwaith yma'n ddatblygiad pwysig yn ein hymdrechion i ddod â'r ased yma sydd mor bwysig i'r gymuned yn ôl i'w hen ogoniant, a'i wneud yn fwy hygyrch i bawb. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl ailgysylltu â'r dŵr a'n hamgylchedd prydferth, gan ddarparu cyfleoedd i bobl fwynhau amrywiaeth o chwaraeon dŵr a mwynhau'r manteision o ran iechyd a lles sy'n dod o dreulio amser allan yn yr awyr agored."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Dyma garreg filltir gyffrous yn y siwrnai i adfywio dwy o gronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd. Mae caniatáu mynediad cyhoeddus i'r safle wedi bod yn uchelgais i'r Cyngor hwn ers amser, a byddwn ni'n parhau i gefnogi Dŵr Cymru i gyflawni hynny.

"Yn ogystal â darparu ardal yn ein prifddinas brysur lle gall y gymuned fwynhau'r byd natur bendigedig sydd o'u cwmpas, bydd datblygu'r hyb ymwelwyr newydd sbon yn creu lle i bobl wella eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, ac i gysylltu â'r safle trwy weithgareddau a chyfleoedd i wirfoddoli."  

Mwyyma.