Back
Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2022 ar agor nawr.


25/1/2022

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion meithrin bellach ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n dair rhwng 1 Medi, 2021 a 31 Awst, 2022 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2022.

Mae lleoedd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gael yn un o'r 74 o ysgolion meithrin ledled y ddinas ac anogir teuluoedd i wneud cais cyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 21 Chwefror 2022, i helpu eu siawns o gael cynnig lle ysgol feithrin o'u dewis.

I wneud cais ewch ihttps://www.caerdydd.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Gwneud-cais-am-le-mewn-ysgol/meithrin/Pages/Derbyn-i-ysgol-feithrin.aspx

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: Mae gan blant 3-4 oed hawl i gael lle rhan-amser mewn meithrinfa o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. 

"Yng Nghaerdydd mae gennym dros 4000 o leoedd meithrin ar draws y ddinas sy'n darparu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg felly mae digon o opsiynau i ddewis ohonynt, ond anogir teuluoedd i gyflwyno eu ceisiadau ar amser i helpu i sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau i gael cynnig lle mewn ysgol feithrin ddewis."

Bydd plant â lle meithrin yn aros yn yr ysgol feithrin tan fis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed pan fyddant yn dechrau yn y dosbarth derbyn yn yr ysgol gynradd. 
Bydd gofyn i deuluoedd lenwi ffurflen gais ar wahân ar gyfer derbyniadau i ysgolion cynradd.

I gael help a chefnogaeth i wneud cais am le mewn ysgol, ewch i unrhyw Hyb Cyngor Caerdydd:Hybiau a Llyfrgelloedd (cardiff.gov.uk)