Back
Gwnaeth timau'r cyngor Nadolig i'w gofio i'r rhai mewn angen ledled y ddinas

27/1/2022

Roedd ysbryd y Nadolig yn wirioneddol fyw fis diwethaf wrth i gannoedd o anrhegion gael eu cyfrannu ar gyfer plant, cafodd prydau bwyd eu paratoi i'r digartref a chafodd profiadau a pherfformiadau'r Nadolig eu mwynhau gan bobl ifanc a'u teuluoedd.

Gwelodd Apêl Anrhegion Nadolig y Gwasanaethau Plant tua 1,200 o blant a phobl ifanc yn cael amrywiaeth eang o anrhegion ar gyfer pob oedran, bron ddwywaith cymaint o anrhegion â'r flwyddyn flaenorol.  Rhoddwyd yr anrhegion gan yr elusen "Mr X Appeal" sydd wedi bod yn casglu anrhegion i blant a phobl ifanc mewn angen ers dros 60 mlynedd, a roddwyd yn bennaf gan nifer o sefydliadau lleol. Cefnogodd Uwch Staff sy'n gweithio ym Mhrif theatrau llawdriniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru yr apêl eto eleni, gan roi'n hael amrywiaeth o anrhegion. Aeth llawer iawn o gynllunio i mewn i'r prosiect i sicrhau bod y plant hynny, nad ydynt yn cael Nadoligau mawr, yn cael rhywbeth i'w agor ar Ddydd Nadolig. 

Darparodd Tîm Caerdydd sy'n Dda i Blant dros 500 o docynnau am ddim er mwyn i deuluoedd brofi amrywiaeth o weithgareddau Nadolig fel rhan o raglen Gaeaf Llawn Lles Caerdydd. Mwynhaodd y plant a'r bobl ifanc weithgareddau gan gynnwys sglefrio iâ yng Ngŵyl y Gaeaf a llwybr golau Parc Bute. Roedd teuluoedd a phlant hefyd yn mynychu perfformiadau o bantomeim Aladdin ac A Christmas Carol yn y Theatr Newydd a Theatr y Sherman.

 

Paratowyd dros 600 o giniawau Nadolig a'u dosbarthu i gymuned ddigartref Caerdydd. Dosbarthodd y fenter 'Struggles 2 Smiles' sy'n hyfforddi troseddwyr ifanc i goginio a pharatoi prydau bwyd, y ciniawau hynny i'r rhai sy'n byw mewn hosteli ledled y ddinas dros gyfnod yr ŵyl.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'r tîm wedi derbyn sylwadau arbennig iawn gan deuluoedd yn mynegi eu diolch am faint o effaith y bydd yn ei chael ar eu bywyd teuluol, gyda dagrau yn gollwng o lygaid teuluoedd a staff fel ei gilydd.  Mae'r sylwadau a gafwyd wedi dangos bod y rhaglenni hyn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran creu atgofion Nadolig hapus i bawb sy'n gysylltiedig."

 

Yn ddiweddar, cydnabu Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF y DU) y rôl arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi'i chwarae fel un o'r rhai cyntaf i ymuno â'i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant a bod cynnydd da wedi'i wneud o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin. O ganlyniad, mae UNICEF y DU wedi argymell bod Caerdydd yn cyflwyno ar gyfer cydnabyddiaeth Dinas sy'n Dda i Blant eleni. I gael gwybod mwy am Gaerdydd sy'n Dda i Blant, ewch ihttps://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/