Back
Cynllun Caerdydd Un Blaned ar gyfer dinas garbon niwtral erbyn 2030 wedi’i nodi fel y gorau yng Nghymru
27.1.22

Mae Caerdydd Un Blaned, strategaeth y cyngor ar gyfer dinas garbon niwtral erbyn 2030, wedi'i chydnabod fel y gorau yng Nghymru gan brosiect gwyddor data dinasyddion dan arweiniad Climate Emergency UK, sydd wedi asesu a sgorio Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd 409 o Gynghorau'r Deyrnas Gyfunol.

Sgoriodd cynllun Caerdydd, a ddatblygwyd yn dilyn datganiad argyfwng hinsawdd y ddinas, 70%, yn erbyn  sgôr cyfartalog yr holl awdurdodau lleol un haen o 50%. 

Yng Nghymru, y cynghorau â'r sgoriau gorau nesaf oedd Cyngor Sir Ddinbych, a Chyngor Bro Morgannwg, y ddau â sgôr o 46%. Roedd sgôr Caerdydd hefyd yn rhoi’r ddinas ymhlith yr ugain cyngor un haen uchaf yn y Deyrnas.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae ein hallyriadau carbon uniongyrchol wedi gostwng 17% bob blwyddyn ers 2016/17 ac ers datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 rydym wedi cyflymu'r gwaith hwnnw'n aruthrol, gan gymryd rhai camau sylweddol tuag at ein gweledigaeth, a nodir yn ein strategaeth Caerdydd Un Blaned, ar gyfer Caerdydd garbon niwtral erbyn 2030.

"Rydym wedi agor fferm solar 9MW newydd, wedi parhau gydag ôl-ffitio adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor, wedi dechrau newid ein fflyd o gerbydau i drydan, wedi datblygu cynlluniau ar gyfer ein rhwydwaith gwresogi ardal carbon isel a fydd yn lleihau allyriadau nwy mewn adeiladau cysylltiedig 80% pan fydd wedi'i adeiladu. Mae ein prosiect Coed Caerdydd i gynyddu’r gorchudd canopi coed yn cyflymu, mae ein rhwydwaith o lonydd beicio yn parhau i dyfu, ac rydym wedi dyrannu cyllid cyfalaf i gyflymu cynlluniau ynghlwm â phwyntiau gwefru cerbydau trydan ac adfer gwres yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig – ar ben hynny rydym hefyd wedi bod yn edrych yn fanwl ar sut y gallwn leihau canlyniadau carbon gweithredoedd caffael y cyngor – a hynny ond i enwi ychydig yn unig o'r camau a gymerwyd gennym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig.

"Ond mae rhagor i'w wneud. Llawer mwy. Gyda Chaerdydd yn ei chyfanrwydd yn cynhyrchu 1,626,059 tunnell o CO2 bob blwyddyn ni allwn fforddio gorffwys ar ein rhwyfau, felly yn ogystal â gyrru'r prosiectau lleihau carbon yn ein cynllun yn eu blaenau, byddwn hefyd yn edrych yn fanwl ar ganlyniadau'r cardiau sgorio hyn sydd newydd eu cyhoeddi i weld lle allwn ddysgu gan awdurdodau lleol eraill a gwella ein cynllun ymhellach, fel y gallwn arwain y ffordd, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y Deyrnas Gyfunol."

I gael rhagor o fanylion am Caerdydd Un Blaned, gan gynnwys gwybodaeth am leihau eich ôl troed carbon, ewch i: www.caerdyddunblaned.co.uk

I gael rhagor o fanylion am Gardiau Sgorio Hinsawdd y Cyngor, ewch i: https://councilclimatescorecards.uk/