Back
'Gaeaf Llawn Lles' i Blant a Phobl Ifanc Caerdydd

03.02.22

Bydd cam nesaf Gaeaf Llawn Lles Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dechrau'n fuan mewn pryd ar gyfer hanner tymor mis Chwefror, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth.

Yn dilyn gŵyl Gwên o Haf y llynedd, a roddodd amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau i filoedd o blant a phobl ifanc Caerdydd, mae'r rhaglen Gaeaf Llawn Lles yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau am ddim i blant 0 i 25 oed ledled y ddinas.

Dechreuodd y Gaeaf Llawn Lles yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr, gan roi'r cyfle i filoedd o deuluoedd fanteisio ar yr holl berfformiadau a digwyddiadau Nadolig byw ledled y ddinas am ddim.  Wedi'i gydlynu gan dîm Caerdydd sy'n Dda i Blant y Cyngor, mae cam nesaf y rhaglen yn parhau tan 31 Mawrth.

Mae i'r cam sydd ar ddod o Gaeaf Llawn Lles dair prif elfen:

  • Rhaglen gelfyddydol a diwylliannol gynhwysfawr
  • Siop Dros Dro newydd sbon Caerdydd sy'n Dda i Blant, sy'n dod i ganolfan siopa Dewi Sant
  • Pecyn sylweddol o gyllid grant i ddarparwyr cymunedol presennol

Mae mwy o fanylion am y rhaglen yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd at wefan Caerdydd sy'n Dda i Blant:https://www.caerdyddsynddaiblant.co.uk/ 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n bwysig parhau i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc ar ôl dwy flynedd o darfu ar eu bywydau.  Helpodd Gwên o Haf i ail-ymgysylltu â phlant ar draws y ddinas a'u galluogi i fwynhau pethau unwaith eto. Mae'r Gaeaf Llawn Lles yn adeiladu ar hynny, gan ganolbwyntio ar wella profiadau pobl ifanc drwy gynnig cyfleoedd newydd a gwahanol iddynt a fydd yn helpu i lunio eu diddordebau yn ogystal â'u lles corfforol, meddyliol ac emosiynol."

Nod y rhaglen yw gwella lles plant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy gefnogi lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol cenedlaethau'r dyfodol.  Bydd detholiad o fentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae yn y gymuned i blant a phobl ifanc o bob oedran. Bydd y rhain yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cymdeithasol plant a phobl ifanc ymhellach, i fynegi eu hunain drwy chwarae a gweithgarwch corfforol.

Bydd ysgolion unigol ledled y ddinas hefyd yn derbyn cyfran o gyllid grant Llywodraeth Cymru i'w cefnogi i ddarparu cyfleoedd ychwanegol i ddysgwyr chwarae, ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol y tu allan i ddysgu ffurfiol.

Mae Gaeaf Llawn Lles yn rhan o Adferiad sy'n Dda i Blant Caerdydd ac mae'n cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.

 

Tair elfen cam nesaf y Gaeaf Llawn Lles

  • Mae'r rhaglen Celfyddydau a Diwylliannol yn cynnig llu o weithgareddau ar draws y gwahanol ystodau oedran.  Mae rhai o'r sesiynau'n cynnwys diwrnodau galw heibio hwyliog i'r teulu, Prosiectau Peilot Ieuenctid Caerdydd Creadigol, sesiynau cerdded i mewn i'r dref i blant bach, cwrs creu comic, rhaglen gerddoriaeth Dilyniant Sain, gweithgareddau hanner tymor mewn canolfannau hamdden a mwy. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ledled Caerdydd gan 19 o bartneriaid ledled y ddinas ac Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig.

 

  • Mae Siop Dros Dro Caerdydd sy'n Dda i Blant yn rhan o bartneriaeth gyda Chanolfan Dewi Sant, a bydd y preswyliad 5 wythnos yn gweld rhaglen lawn, am ddim o weithgareddau creadigol, hwyliog i blant 0 i 25 oed, yn cael ei chyflwyno gan 20 o bartneriaid.  Wedi'i leoli ar lawr cyntaf Canolfan Siopa Dewi Sant yn hen uned siop Gap, bydd y Siop Dros Dro yn lle am ddim i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ymlacio, cymdeithasu, cael hwyl, dysgu rhywbeth newydd, dod o hyd i'r gefnogaeth gywir, a dweud eu dweud. Cymysgedd o fannau eistedd, mannau chwarae, gweithdai ac arwynebau gwaith, i gyd i wella lles.

 

  • At ei gilydd, dyfarnwyd grantiau lles i 24 o sefydliadau cymunedol ledled y ddinas i ddarparu gweithgareddau drwy gydol misoedd y gaeaf.  Bydd y sefydliadau'n rhannu manylion y ddarpariaeth ychwanegol drwy eu sianeli arferol.