Back
Diwydiant gwallt a harddwch Caerdydd i helpu i fynd i'r afael â cham-drin domestig


11/2/22

Gofynnwyd i siopau trin gwallt, barbwyr a gweithwyr harddwch ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg am eu cefnogaeth i helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Bydd tua 650 o fusnesau ar draws y rhanbarth yn derbyn gwybodaeth ac adnoddau y mis hwn i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r mater a'u galluogi i gyfeirio unrhyw gleientiaid sydd angen cymorth at ddarparwyr cymorth arbenigol lleol a chenedlaethol.

 

Gall canlyniadau cam-drin domestig a thrais rhywiol fod yn bellgyrhaeddol a chael effaith ddifrifol ar bob agwedd ar fywydau dioddefwyr felly nod y fenter hon yw sicrhau bod pawb sy'n profi camdriniaeth - menywod, dynion a phlant yn cael eu cefnogi.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Gwyddom y bydd dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn aml yn datgelu eu profiadau i bobl yn eu cymuned yn hytrach na gweithwyr proffesiynol felly gall trinwyr gwallt, barbwyr ac eraill sy'n gweithio yn y diwydiant harddwch glywed yn aml am anawsterau cleient, neu am rywun y mae'r cleient yn poeni amdano.

 

"Drwy ddarparu'r adnoddau hyn, rydym yn rhoi'r wybodaeth gywir sydd ei hangen ar bobl yn y rolau hyn nid yn unig i allu cyfarwyddo ac annog cleient i gael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth arbenigol priodol ond hefyd ymwybyddiaeth well o sut i ddelio â'r mater. Gall yr ymateb cychwynnol y mae dioddefwr yn ei gael i ddatgelu ei brofiadau wneud gwahaniaeth sylweddol i'w dull o geisio cymorth."

 

Mae'r pecyn adnoddau yn cyfeirio busnesau at gynlluniau fel cynllun 'Cenhadon Hola Fi' Cymorth i Fenywod yng Nghymru, cynllun 'Mannau Diogel' Caerdydd AM BYTH a hyfforddiant am ddim gan Lywodraeth Cymru ar-lein a all helpu pobl i sylwi ar arwyddion cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Mae ymarferwyr gwallt a harddwch hefyd yn cael eu hannog i ddod yn Hyrwyddwyr neu Genhadon Rhuban Gwyn i gefnogi'r mudiad byd-eang a ddechreuwyd gan ddynion sydd wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais gwrywaidd yn erbyn menywod.

 

Mae'r pecynnau gwybodaeth yn rhan o ymgyrch ehangach yn y ddinas i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais rhywiol. O 7 Chwefror tan ganol mis Mawrth, bydd yr holl docynnau bws ar gyfer cwmnïau sy'n gweithredu ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn cario hysbysebion am Byw Heb Ofn, y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol gallwch ofyn am help a chefnogaeth gan y gwasanaeth Byw Heb Ofn.
@BywHebOfn #BywHebOfn Rhadffôn 0808 80 10 800 Neges Destun 0786 007 7333
E-bost gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Sgwrs fyw llyw.cymru/byw-heb-ofn

 

Os ydych yn fusnes lleol a hoffai dderbyn pecyn gwybodaeth, anfonwch e-bost at:Nicola.jones2@caerdydd.gov.uk

 

Dilynwch y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #rhubangwyncaerdyddarfro