Back
Ardal Chwarae Caeau Llandaf bellach ar agor ar ôl ailwampio'n helaeth

14.02.2022

A group of people standing by a fenceDescription automatically generated with low confidence

 

Ddydd Gwener agorodd Plant Ysgol Gynradd Llandaf yr Eglwys yng Nghymru Ardal Chwarae Caeau Llandaf yn swyddogol, lle mae croeso i blant archwilio a chwarae yn dilyn gwaith ailwampio sylweddol.

Dechreuodd y gwaith yn Ardal Chwarae Caeau Llandaf ym mis Hydref 2021 a'i gwblhau ddydd Gwener 11 Chwefror.

Yn gynharach eleni, gwahoddodd Adran Parciau Caerdydd ysgolion o ledled y ddinas i roi eu barn a'u syniadau ar sut y gellid datblygu'r ardal chwarae.

Cyflwynodd disgyblion o Ysgol Gynradd Creigiau, Ysgol Gynradd Kitchener, Ysgol Gynradd Millbank, Ysgol Gynradd Severn, Ysgol Gynradd Sant Cuthbert, Ysgol Gynradd Dewi Sant, Ysgol Gynradd Santes Monica, yn ogystal â chynigion ar wahân gan blant eraill, eu lluniau a'u syniadau.

Yn dilyn syniadau'r plant, datblygodd cyngor Caerdydd yr arglawdd canolog yn nodwedd chwarae newydd - gan gynyddu'r uchder ac ychwanegu arwyneb rwber newydd.

Mae'r plant hefyd yn gallu mwynhau:

  • 3 llithren fawr newydd
  • rhwydi dringo
  • rhaffau dringo
  • cerrig camu sffêr mawr
  • bydd meinciau, llwybrau ac offer chwarae dringo eraill hefyd yn cael eu hychwanegu at y gofod.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Mae hon yn ardal chwarae unigryw ac arbennig iawn ac rwy'n falch iawn o'i gweld ar agor ymhell cyn hanner tymor mis Chwefror i blant a theuluoedd ei mwynhau.

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda phlant mewn ysgolion ledled y ddinas i sicrhau bod ein cynlluniau adnewyddu yn diwallu anghenion ein cymunedau ac rydym yn falch iawn o wireddu'r cynlluniau hyn. 

"Mae plant yn elwa cymaint ar allu cwrdd yn yr awyr agored a chwarae gyda'i gilydd felly mae'r offer chwarae newydd a gwell hwn yn gyfleuster gwych i deuluoedd lleol ei ddefnyddio."

Bydd yr offer chwarae presennol yn yr ardal chwarae yn cael ei gadw a bydd rhannau eraill o'r ardal chwarae yn cael eu hadolygu'n ddiweddarach.

Bydd camau nesaf yr ardal chwarae yn canolbwyntio ar chwarae cwbl hygyrch, chwarae plant bach, cerddoriaeth ac addysg, a chwarae naturiol.