Back
Ar y ffordd i yrfa newydd drwy Wasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Caerdydd

 


17/2/22 

Mae cynllun newydd i helpu pobl ar y ffordd i yrfa newydd wedi cael ei lansio gan Wasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd.

 

Mae cynllun gyrrwr HGV newydd wedi'i ddatblygu gan y gwasanaeth i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i fod yn yrrwr HGV cymwys.

 

Mae'r cwrs yn cynnwys hyfforddiant i yrwyr, prawf ymarferol a theori, meddygol a mwy, yn ogystal â chefnogaeth barhaus mentor i mewn i waith drwy gydol y broses.

 

Rhaid i ddysgwyr fod yn 19 oed neu'n hŷn, bod ganddynt drwydded yrru lawn yn y DU a bod ganddynt safon dda o Saesneg.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae'r prinder gyrwyr HGV ledled y wlad wedi cael cyhoeddusrwydd da yn ogystal â'r effaith ganlyniadol y mae'r sefyllfa wedi'i chael ar argaeledd cyflenwadau penodol a darparu gwasanaethau.

 

"Mae Cyngor i Mewn i Waith Caerdydd wedi ymateb drwy ddatblygu cynllun a fydd nid yn unig yn helpu'r sector a phobl yng Nghaerdydd drwy ddarparu'r hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i fod yn yrrwr HGV cymwys, ond a fydd yn cefnogi ein gwasanaethau cyngor ein hunain hefyd. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag adrannau ar draws yr awdurdod sydd â rolau HGV o fewn eu gwasanaethau, megis ein timau gwastraff ac ailgylchu, i gefnogi'r broses o recriwtio gyrwyr medrus.

 

 

"Rydym yn awyddus i glywed gan ystod eang o bobl â phosibl - ceiswyr gwaith, pobl nad ydynt efallai wedi gweithio am gyfnod ond sy'n awyddus i ddychwelyd i swydd, newid gyrfa, dynion a menywod.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ond mae angen trwydded yrru lawn ar ymgeiswyr yn y DU.

 

"Mae gan y gwasanaeth gysylltiadau rhagorol â chyflogwyr felly mae hwn yn gyfle gwych i bobl gael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddechrau ar yrfa newydd."

 

I gael gwybod mwy am y cynllun ac i gofrestru diddordeb, e-bostiwchcyngorimewniwaith@caerdydd.gov.ukneu ffoniwch 029 2087 1071.