Back
Rhybudd Coch gan y Swyddfa Dywydd yn sgil Storm Eunice - Yr effaith ar Wasanaethau Cyngor Caerdydd a Chynllunio

17/02/22

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Coch am Wynt o 7am tan hanner dydd yfory, dydd Gwener 18 Chwefror sy'n berthnasol i ardaloedd arfordirol de-orllewin y Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Caerdydd.

Oherwydd difrifoldeb y storm, mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am falurion yn cael eu codi i'r awyr gan y gwynt a all beryglu bywyd; difrod i adeiladau; tarfu ar drafnidiaeth; coed wedi cwympo yn debygol; toriadau pŵer; a thonnau mawr ar y glannau. Cynghorir y cyhoedd i ystyried a yw teithiau'n angenrheidiol ac i baratoi.

Er mwyn helpu i ddiogelu'r cyhoedd a'n gweithlu, a cheisio sicrhau nad yw Storm Eunice yn achosi gormod o darfu, mae trefniadau rheoli argyfwng Cyngor Caerdydd wedi'u rhoi ar waith, ac mae'r newidiadau canlynol wedi'u gwneud i wasanaethau ar gyfer yfory. Mae cynlluniau ar waith hefyd er mwyn bod yn barod i ymateb i'r tarfu a ragwelir.

Gweld gwybodaeth am wasanaethau’r Cyngor a effeithir gan Storm Eunice yma 

 

Newidiadau i Wasanaethau

Ysgolion

Bydd pob ysgol yng Nghaerdydd ar gau Ddydd Gwener 18 Chwefror oherwydd y tarfu a ragwelir ar drafnidiaeth a'r rhybudd o ddifrod posibl i adeiladau.

 

Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu

Mae casgliadau dydd Gwener 18 Chwefror wedi'u hatal, gyda chasgliadau gwastraff cyffredinol a gwastraff bwyd yn cael eu cynnal yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt Ddydd Sadwrn hyd at Ddydd Llun. Gofynnir i drigolion gyflwyno eu hailgylchu Ddydd Gwener nesaf sef 25 Chwefror.

Er mwyn atal malurion rhag cael eu codi gan y gwynt, ni ddylid cyflwyno unrhyw eitemau i'w casglu yfory.

 

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Bydd canolfannau Ffordd Lamby a Chlos Bessemer ar gau Ddydd Gwener 18 Chwefror. Gall trigolion sydd wedi trefnu mynd i'r canolfannau ar y diwrnod hwnnw fynd iddynt Ddydd Sadwrn a Dydd Sul yn lle hynny.

 

Casgliadau Eitemau Swmpus

Ni chaiff eitemau swmpus eu casglu.  Gofynnir i drigolion sydd wedi trefnu casgliad Ddydd Gwener 18 Chwefror gyflwyno eu heitemau swmpus i'w casglu ar ôl i Storm Eunice gilio. Bydd y tîm yn trefnu i'w casglu dros yr wythnos nesaf.

Er mwyn atal malurion rhag cael eu codi gan y gwynt, ni ddylid cyflwyno unrhyw eitemau i'w casglu yfory.

 

 

Cynllunio a Pharatoi

Priffyrdd

Mae timau wrth gefn i ddelio â galwadau brys yn ymwneud â chau ffyrdd ac unrhyw lifogydd posibl.

 

Coed wedi Cwympo

Mae'r staff wedi'u paratoi ac maent wrth gefn yn barod er mwyn ymateb i alwadau i glirio coed sydd wedi cwympo.

 

Glanhau Strydoedd

Mae Gwasanaethau Glanhau Cyngor Caerdydd yn barod er mwyn ymateb ac i weithredu lle bo angen yn rhan o unrhyw waith glanhau ar ôl i Storm Eunice ddod i ben.

 

Difrod i Adeiladau'r Cyngor

Bydd contractwyr ar alwad dros y penwythnos er mwyn ymateb i unrhyw ddifrod i adeiladau'r Cyngor.