Back
Storm Eunice - Rhybudd Coch Swyddfa Dywydd - Neges ddilynol ynghylch effeithiau ar wasanaethau Cyngor Caerdydd

17/02/2022 Cyhoeddwyd 17:00 

Mae'r diweddariad canlynol ar wasanaethau Cyngor Caerdydd yn ychwanegol at yr effeithiau Storm Eunice a nodwyd yn gynharach y prynhawn yma:https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/28532.html

Gweld gwybodaeth am wasanaethau’r Cyngor a effeithir gan Storm Eunice yma  

Parciau

Bydd Parc Bute, Parc y Rhath, Parc Cefn Onn, Parc Fictoria a Pharc Thomson i gyd ar gau ac yn cael eu cloi heno. Byddant yn ailagor ar ôl i Storm Eunice basio

 

Mynwentydd

Bydd Mynwent y Gogledd, Mynwent Cathays a Mynwent Pantmawr ar gau fory.  Bydd hyn yn cael ei adolygu amser cinio i weld a allant ailagor.

Bydd pob angladd sydd wedi'i drefnu ar safleoedd eraill ac amlosgiadau yn Nraenen Pen-y-graig yn mynd rhagddynt yn ôl y bwriad, ond dylai'r rhai sy'n mynychu holi'r trefnydd angladdau am unrhyw ddiweddariadau.

 

Hybiau a Llyfrgelloedd

Bydd holl hybiau a llyfrgelloedd y ddinas ar gau yfory. Ni fydd unrhyw wasanaethau wyneb yn wyneb ar gyfer Cyngor i Mewn i Waith, Cyngor Ariannol, Cymorth Tai ac ati. Bydd ein timau yn dal i fod ar gael i ffonio'r Llinell Gyngor 029 2087 1071 ac e-bostio:hybcynghori@caerdydd.gov.uk

 

Ysgol Farchogaeth Caerdydd

Ar gau drwy'r dydd fory

 

Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Ar gau drwy'r dydd fory

 

Gwastraff Masnach

Dim casgliadau fory. Bydd criwiau'n gweithio dros y penwythnos i ddal i fyny.