Back
Storm Eunice - Rhybudd Coch Swyddfa Dywydd - Effeithiau ar wasanaethau Cyngor Caerdydd
 18/02/2022 Cyhoeddwyd 8am  Wedi'i ddiweddaru 9am

Mae'r diweddariad canlynol ar wasanaethau Cyngor Caerdydd yn ychwanegol at yr effeithiau Storm Eunice a nodwyd ddoe yma:https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/28532.html

Gweld gwybodaeth am wasanaethau’r Cyngor a effeithir gan Storm Eunice yma  

Parciau

Bydd Parc Bute, Parc y Rhath, Parc Cefn Onn, Parc Fictoria a Pharc Thomson i gyd ar gau heddiw. Byddant yn ailagor ar ôl i Storm Eunice basio.

 

Mynwentydd

Bydd Mynwent y Gogledd, Mynwent Cathays a Mynwent Pantmawr ar gau y bore ma.  Bydd hyn yn cael ei adolygu amser cinio i weld a allant ailagor.

Bydd pob angladd sydd wedi'i drefnu ar safleoedd eraill ac amlosgiadau yn Nraenen Pen-y-graig yn mynd rhagddynt yn ôl y bwriad, ond dylai'r rhai sy'n mynychu holi'r trefnydd angladdau am unrhyw ddiweddariadau.

 

Hybiau a Llyfrgelloedd

Bydd holl hybiau a llyfrgelloedd y ddinas ar gau heddiw. Ni fydd unrhyw wasanaethau wyneb yn wyneb ar gyfer Cyngor i Mewn i Waith, Cyngor Ariannol, Cymorth Tai ac ati. Bydd ein timau yn dal i fod ar gael i ffonio'r Llinell Gyngor 029 2087 1071 ac e-bostio:hybcynghori@caerdydd.gov.uk

 

Ysgol Farchogaeth Caerdydd

Ar gau drwy'r dydd.

 

Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Ar gau drwy'r dydd. 
 


Canolfan Channel View (CF11)​​​​ 

Ar gau drwy'r dydd.

 

Gwastraff Masnach

Dim casgliadau heddiw. Bydd criwiau'n gweithio dros y penwythnos i ddal i fyny.