Back
Cofrestrwch – Peidiwch â cholli eich cyfle i bleidleisio yn etholiadau mis Mai

18.2.22 

Cynhelir etholiadau lleol ledled Cymru ar 5 Mai 2022 ac mae Cyngor Caerdydd yn annog preswylwyr cymwys ar draws y ddinas i sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.

 

Yr wythnos nesaf, bydd llythyrau gan dîm Gwasanaethau Etholiadol yr awdurdod yn dechrau cyrraedd aelwydydd yn gofyn i breswylwyr gadarnhau manylion y pleidleiswyr cymwys yn yr eiddo, a'r dull pleidleisio - boed hynny'n bersonol, drwy'r post neu drwy ddirprwy - y maent wedi'i ddewis er mwyn pleidleisio ym mis Mai.

 

Dylai preswylwyr ddarllen yr wybodaeth yn ofalus ac os yw'r holl fanylion yn gywir, ni fydd angen gwneud unrhyw beth.  Os oes angen gwneud newidiadau, e.e. mae unigolyn wedi'i restru nad yw'n byw yn y cyfeiriad mwyach, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hyn yw ar-lein yma 

Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu cwblhau'r newidiadau ar-lein e-bostiogwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.ukneu ffoniwch 029 2087 2087.

 

Mae unrhyw aelod o'r aelwyd sy'n 14 oed neu'n hŷn nad yw wedi'i restru ar y llythyr yn gallu cofrestru i bleidleisio ynwww.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio  Yr etholiadau lleol eleni fydd y tro cyntaf y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru, yn ogystal â dinasyddion tramor cymwys, yn gallu pleidleisio i ethol aelodau'r Cyngor.

 

Dywedodd Paul Orders, Swyddog Canlyniadau Caerdydd: "Bydd yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal ym mis Mai. Maen nhw'n gyfle i bobl ledled y ddinas ddweud eu dweud am bwy sy'n cynrychioli eu cymuned yng Nghyngor Caerdydd.

 

"Mae'r Llythyrau Hysbysu Aelwydydd rydym yn eu hanfon ar hyn o bryd yn ffordd o gadarnhau bod y cofnodion sydd gennym am bleidleiswyr cymwys yn gywir a gellir newid unrhyw wybodaeth y mae angen ei diweddaru mewn da bryd, cyn etholiadau mis Mai.

 

Gall preswylwyr a hoffai bleidleisio drwy'r post wneud cais ymahttp://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/sut-i-fwrwch-pleidlais/pleidleisio-drwyr-post

neu drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk i gael ffurflen gais. Y dyddiad cau i wneud cais i bleidleisio drwy'r post yw 5pm ddydd Mawrth 19 Ebrill 2022.

 

Fel arall, gall preswylwyr ddewis penodi dirprwy, rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, drwy wneud cais yma:https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/sut-i-fwrwch-pleidlais/pleidleisio-drwy-ddirprwycyn 5pm ddydd Mawrth, 26 Ebrill 2022.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw hanner nos, nos Iau 14 Ebrill.

 

Ychwanegodd Mr Orders: "Cofiwch: oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn etholiadau mis Mai. Cofrestrwch ynwww.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio