Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 18 Chwefror 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: ymateb i Storm Eunice; datgelu cyllideb i fynd i'r afael ag 'argyfwng costau byw'; adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf; yfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion Caerdydd.

 

Ymateb i Storm Eunice

Cafodd Rhybudd Coch y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion a ddaeth yn sgil storm Eunice ei godi am hanner dydd heddiw, ond bydd Rhybudd Oren yn parhau mewn grym tan 9pm heno.

Rhoddwyd gweithdrefnau rheoli argyfwng y cyngor ar waith ddoe a heddiw, er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd a'r gweithlu'n ddiogel, a cheisio cyfyngu ar y tarfu a achoswyd gan Storm Eunice gymaint ag y bo modd

Derbyniodd y Cyngor nifer o adroddiadau am goed a oedd wedi cwympo a difrod i adeiladau. Mae criwiau'r cyngor wedi'u paratoi'n llawn ac wedi ymateb i ddigwyddiadau gydol y dydd. Mae'r gwaith glanhau yn parhau.

Roedd gweithwyr rheng flaen allan yn darparu cymorth a chefnogaeth i breswylwyr agored i niwed, gan sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn parhau. Mae canolfannau hamdden Llanisien a'r Dwyrain yn gweithredu fel 'gweithfannau achlysurol' i weithlu symudol y Cyngor eu defnyddio yn ystod y dydd ac ymlaen i heno.

Er bod disgwyl i'r Rhybudd Oren gael ei godi heno, mae'r rhagolygon ar gyfer y penwythnos ar gyfer mwy o dywydd ansefydlog, gyda chawodydd glaw trwm ac awelon cryf yn y rhagolygon.   Mae'r digwyddiad Daw'r Gwanwyn ar Ddwy Olwyn a oedd i fod i gael ei gynnal ym Mharc Fictoria yfory wedi'i ohirio, ac mae dyddiad arall yn cael ei drefnu. Mae'r ddau ddigwyddiadau yn Hyb STAR Ddydd Sadwrn, 26 Chwefror, a Chastell Caerdydd ar Ddydd Sadwrn, 5 Mawrth yn dal i ddigwydd.

I gael diweddariadau rheolaidd, dilynwch Gyngor Caerdydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ewch iwww.newyddioncaerdydd.co.ukawww.caerdydd.gov.uk

 

 

Datgelu cyllideb i fynd i'r afael ag 'argyfwng costau byw'

Datgelwyd cyllideb a gynlluniwyd i greu swyddi newydd, adeiladu cartrefi cyngor newydd, a gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc, tra'n diogelu'r rhai lleiaf cefnog wrth i'r 'argyfwng costau byw' gael ei gynnal, gan Gyngor Caerdydd.

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyflwyno cynigion a allai weld miliynau'n cael eu gwario i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf wrth i'r ddinas geisio gadael effeithiau gwaethaf pandemig COVID-19 y tu ôl iddi.

Mae'r cynigion yn rhan o adroddiad cyllideb 2022/23 a gaiff ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo ddydd Iau, 24 Chwefror. Os cytunir arnynt, bydd y Cyngor Llawn yn pleidleisio ar gynigion y gyllideb yn ei gyfarfod nesaf ar 3 Mawrth.

Os bydd y Cyngor yn pasio cynigion y Gyllideb, byddai ysgolion Caerdydd yn cael £9.3m yn ychwanegol; gwasanaethau oedolion a phlant £23.9m yn ychwanegol; a gwasanaethau ieuenctid a gwariant ar bobl ifanc £2.4m yn ychwanegol. Byddai'r Dreth Gyngor yn cael ei gosod ymhell islaw chwyddiant, sef 1.9% - sydd ond yn 48c yr wythnos ar gyfer aelwyd Band D - i lawr o'r cynnydd o 3.5% y llynedd.     

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Y llynedd, gosododd y cyngor hwn un o'r cyllidebau pwysicaf yr oeddwn yn teimlo y byddai'n cael ei hosod erioed. Roedd COVID-19 wedi effeithio ar bob un ohonom a dywedais bryd hynny y byddai'n effeithio ar ein dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod. Ar ôl bron i ddwy flynedd o frwydro yn erbyn y feirws, mae'n ymddangos bod ffordd glir ymlaen erbyn hyn, llwybr at fywyd mwy normal. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn edrych i'r dyfodol, gan baratoi ein dinas am amseroedd gwell o'n blaenau. Ond ni all neb wadu, er y gallem fod wedi troi'r gornel ar y pandemig, ein bod bellach yn wynebu argyfwng costau byw. Bob dydd rwy'n cwrdd â phobl sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, mae cynnydd mewn costau bwyd, tanwydd, dillad a biliau ynni yn gweld pobl yn cael trafferth, yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus allweddol a thaflenni."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28547.html

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (04/02/22 i 10/02/22)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 313

  • Disgyblion a myfyrwyr = 267
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 46

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 56,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.

Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Chwefror 2022

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  1,073,718 (Dos 1: 401,143 Dos 2:  374,822 DOS 3: 8,072 Dosau atgyfnertha: 289,579)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 14 Chwefror 2022

 

  • 80 a throsodd:22,207 / 95% (Dos 1) 22,050 / 94.3% (Dos 2 a 3*) 20,490 / 92.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 16,775 / 96.6% (Dos 1) 16,661 / 95.9% (Dos 2 a 3*) 15,449 / 92.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,152 / 95.9% (Dos 1) 21,022 / 95.3% (Dos 2 a 3*) 19,582 / 93.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,732 / 94.2% (Dos 1) 22,499 / 93.2% (Dos 2 a 3*) 20,739 / 92.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 27,023 / 92.2% (Dos 1) 26,666 / 91% (Dos 2 a 3*) 24,340 / 91.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,701 / 90.2% (Dos 1) 29,237 / 88.8% (Dos 2 a 3*) 26,385 / 90.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,055 / 87.9% (Dos 1) 28,451 / 86.1% (Dos 2 a 3*) 25,104 / 88.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,590 / 81.9% (Dos 1) 54,826 / 79.3% (Dos 2 a 3*) 45,656 / 83.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 63,313 / 77.1% (Dos 1) 59,732 / 72.8% (Dos 2 a 3*) 43,328 / 72.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 83,564 / 79.3% (Dos 1) 75,391 / 71.6% (Dos 2 a 3*) 46,872 / 62.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,033 / 71.1% (Dos 1) 2,987 / 52.7% (Dos 2 a 3*) 55 / 1.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 13-15: 13,912 / 57.1% (Dos 1) 8,380 / 34.4% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig:6,947 / 98.1% (Dos 1) 6,238 / 88.1% (Dos 2 a 3*) 18 / 0.3% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal:1,987 / 98.6% (Dos 1) 1,971 / 97.8% (Dos 2 a 3*) 1,822 / 92.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal:3,698 / 99% (Dos 1) 3,644 / 97.6% (Dos 2 a 3*) 2,905 / 79.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd:27,198 / 98.2% (Dos 1) 26,934 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 24,269 / 90.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**:8,162 / 82.2% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed:10,780 / 94.7% (Dos 1) 10,621 / 93.3% (Dos 2 a 3*) 6,105 / 57.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:46,322 / 90.8% (Dos 1) 45,009 / 88.2% (Dos 2 a 3*) 38,261 / 85% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15):657 / 63.4% (Dos 1) 470 / 45.4% (Dos 2 a 3*) 44 / 9.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(5-11):481 / 37.5% (Dos 1)

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (07 Chwefror - 13 Chwefror 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

17 Chwefror 2022

 

Achosion: 1,342

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 365.8 (Cymru: 290.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,364

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,189.4

Cyfran bositif: 30.8 (Cymru: 27.1% cyfran bositif)