Back
Sefydlu Fforwm Ieuenctid Caerdydd Ddwyieithog fel rhan o strategaeth pum mlynedd newydd ar gyfer y Gymraeg


18.2.22

Bydd fforwm ieuenctid newydd i helpu i gefnogi twf a defnydd y Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng Nghaerdydd yn cael ei sefydlu eleni.

 

Bydd Fforwm Ieuenctid Caerdydd Ddwyieithog yn llwyfan i bobl ifanc sy'n cynrychioli gwahanol sefydliadau partner o Fforwm Caerdydd Ddwyieithog - fel Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Urdd, Menter Caerdydd a Llenyddiaeth Cymru, lle gallant gyfarfod, cynllunio digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg i gefnogi cynnydd ac amlygrwydd yr iaith yn y brifddinas.

 

Bydd aelodau'r fforwm yn cael eu hannog i fod yn hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddylanwadu ar eu cyfoedion a hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith y tu hwnt i gatiau'r ysgol.

 

Mae creu'r fforwm yn un o nifer o feysydd gwaith a amlinellir yng nghynllun gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog 2022-27, sy'n amlinellu gwahanol gynlluniau a mentrau i hwyluso twf a defnydd yr iaith yng Nghaerdydd.

 

Mae'r strategaeth yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg ac fe'i datblygwyd o dan dair thema allweddol - cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a chreu amodau ffafriol ar gyfer yr iaith.

 

Mae rhagamcanion yn dangos yr oedd 42,584 o siaradwyr Cymraeg yn y ddinas yn 2021. Mae cynyddu'r nifer honno gan 3,386 erbyn 2027 yn un o nodau allweddol y strategaeth, a fyddai'n rhoi'r ddinas mewn sefyllfa dda i gyrraedd 49,355 erbyn 2031 ac ar y trywydd iawn i chwarae ei rhan yng ngweledigaeth Cymraeg 2050.

 

Bydd y system addysg a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-32 y Cyngor yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r targedau a nodir yn y strategaeth, drwy sicrhau twf yr iaith yn y dyfodol drwy gynyddu nifer y plant - a rhieni - sy'n cael y cyfle i ddysgu a siarad Cymraeg, yn ogystal â defnyddio'r iaith y tu allan i gatiau'r ysgol.

 

Mae'r strategaeth yn ceisio hyrwyddo manteision defnyddio'r Gymraeg yn y cartref, codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a'i hanes a'i diwylliant gyda theuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg yn ogystal â hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg gyda chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y ddinas.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae cefnogi pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau i ddysgu, siarad a defnyddio'r Gymraeg yn ganolog i'r gwaith o gyflawni ein huchelgeisiau dwyieithog.  Rydym am i Gaerdydd fod yn ddinas lle gall pobl fyw, gweithio a chwarae ynddi, yn ogystal â chael gwasanaethau a chefnogaeth o ansawdd da yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.

 

"Y strategaeth newydd hon yw'r map ffordd i'n cael ni yno ac mae creu Fforwm Ieuenctid Caerdydd Ddwyieithog yn un o nifer o fentrau sy'n ein cefnogi ar hyd y ffordd.

 

"O ystyried y ddwy flynedd anodd y mae pobl ifanc newydd eu profi a'r diffyg cyfleoedd y maent wedi'u cael i gyfarfod a bod yn nhw eu hunain, yn ogystal â'n huchelgeisiau Dinas sy'n Dda i Blant, mae creu mwy o gyfleoedd gwell i bobl ifanc siarad Cymraeg gyda'i gilydd y tu allan i'r diwrnod ysgol, neu y tu hwnt i'r cartref, yn hanfodol.

 

"Gwnaethom gynnydd cadarn iawn fel dinas dros oes strategaeth flaenorol Caerdydd Ddwyieithog. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol i'r llwyddiant hwnnw a'n nod yw cryfhau ac ehangu'r berthynas â sefydliadau eraill i helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer prifddinas wirioneddol ddwyieithog dros y blynyddoedd nesaf."

 

Bydd y Cabinet yn ystyried Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog 2022 - 2027 yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 25 Chwefror a gofynnir iddo argymell y strategaeth i'r Cyngor Llawn.

 

I ddarllen yr adroddiad llawn a Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog 2022 - 2027, ewch yma