Back
Clirio ar ôl Storm Eunice

21/02/22


Mae timau ymateb brys y tu allan i oriau Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio gydol y penwythnos i asesu, glanhau a chlirio'r dinistr a achoswyd gan Storm Eunice Ddydd Gwener.

Mae tair storm dan yr enwau - Dudley, Eunice a Franklin - wedi taro Prifddinas Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gydag adrodd am ddifrod helaeth i eiddo preifat, i eiddo'r cyngor, i adeiladau a choed wedi cwympo.

Ers i Storm Eunice daro glannau Cymru Ddydd Gwener, mae'r cyngor wedi derbyn 120 o alwadau gan y cyhoedd am 50 o goed wedi cwympo neu ganghennau crog peryglus sydd wedi effeithio naill ai ar ffyrdd, parciau neu dir tai Caerdydd.

Cafodd yr holl alwadau a dderbyniwyd eu hasesu a'u blaenoriaethu ar sail risg bosibl i fywyd ac mae 109 o'r galwadau hyn bellach wedi'u cwblhau, gydag 11 digwyddiad yn weddill ar hyn o bryd.

Meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Hoffwn ddiolch i holl staff y cyngor sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino dros y penwythnos i lanhau'r llanast sydd wedi'i adael gan Storm Eunice. Cafwyd nifer o adroddiadau am ddifrod i ysgolion ac adeiladau'r cyngor ac rydym yn cynnal y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau y gellir gwneud gwaith atgyweirio cyn gynted â phosibl.

"Mae tywydd eithafol fel hyn yn dod yn fwy cyffredin, ond mae'n galonogol gweld cymunedau ledled y ddinas yn dod at ei gilydd i ddelio â'r problemau sydd wedi'u hachosi gan y stormydd hyn. "

Roedd y digwyddiadau mwyaf yn y ddinas, lle syrthiodd coed ar i'r briffordd, ar Ffordd y Faenor (yr A470), y ffordd ymadael ar y Ffordd Gyswllt (A4232) ac ar Heol y Gadeirlan. Mae'r coed hyn bellach wedi'u symud ond mae'r goeden a gwymodd ar Fryn Rhiwbeina yn dal yno a dim ond pan fydd cyflymder y gwynt yn gostwng yn ddiweddarach heddiw y caiff ei symud.

Mae dwy ffordd ar gau ar Stryd y Parc a Heol Hemmingway tra bod asesiadau strwythurol yn cael eu cynnal ar adeiladau penodol. Bydd y ffyrdd hyn yn parhau i fod ar gau hyd nes y cwblheir yr asesiadau strwythurol hyn, a bod yr atgyweiriadau angenrheidiol yn cael eu gwneud.

Dwedodd Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd, Paul Orders:  "Y penderfyniad i gau ysgolion Ddydd Gwener ac atal casgliadau gwastraff oedd yr un iawn, gan ei bod yn anghyffredin iawn cael rhybudd coch gan y Swyddfa Dywydd, yn enwedig ar gyfer gwynt a bu'n rhaid i ni gymryd y rhagofalon angenrheidiol

"Gyda stormydd fel hyn, mae cynlluniau wrth gefn y cyngor yn cael eu rhoi ar brawf, ac mae'r staff wedi gweithio'n wych gyda'i gilydd i ddelio â'r holl broblemau y mae'r stormydd hyn wedi'u hachosi.

"Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad swyddogion y cyngor ar draws y cyngor sydd wedi gweithio o amgylch y cloc, i glirio'r llanast a sicrhau y gall gwasanaethau allweddol y cyngor i'r henoed a thrigolion sy'n agored i niwed barhau i gael eu darparu."