Back
30 o gartrefi cyngor newydd wedi'u cynllunio ar gyfer Cilgant Wyndham


 4/3/22

Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno mewn egwyddor i gaffael 30 o fflatiau newydd ar gyfer pobl hŷn yng Nghilgant Wyndham, Glan-yr-afon, fel rhan o'i gynllun uchelgeisiol i greu 4,000 o gartrefi newydd ar draws y ddinas.

 

Bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu gan ddatblygwr preifat ar safle hen safle adeiladu Seel and Co ac ar ôl ei gwblhau, bydd y fflatiau'n cael eu gwerthu i'r cyngor.  Bydd y datblygiad yn cynnwys 30 o fflatiau un gwely wedi'u gwasgaru dros dri llawr.  Bydd gan bob un ohonynt fynediad i fan awyr agored preifat ac maent mewn lleoliad hynod gynaliadwy gyda mynediad uniongyrchol i ystod eang o gyfleusterau lleol, trafnidiaeth gyhoeddus ac yn agos at ganol y ddinas. 

 

Wrth groesawu'r cynllun, dywedodd aelod Cabinet y Cyngor dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae'r fflatiau hyn yn rhan allweddol o'n rhaglen gyffrous a fydd yn darparu 4,000 o dai cyngor ledled y ddinas.

 

"Yn fwy na hynny, maen nhw'n cael eu hadeiladu mewn ardal yng Nghaerdydd lle mae galw mawr iawn am gartrefi cyngor ond lle mae gennym ni gyfleoedd cyfyngedig i adeiladu ein hunain."

 

Hyd yn hyn, mae rhaglen adeiladu newydd y Cyngor wedi darparu 806 o eiddo, gan gynnwys 613 o gartrefi cyngor a 193 o gartrefi ar werth.  Mae 522 arall yn cael eu hadeiladu ar y safle ar hyn o bryd, mae gan 506 ganiatâd cynllunio ar waith ac mae 1,729 o gartrefi eraill ar y gweill.

 

Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cynnwys 59 o safleoedd wedi'u cadarnhau sydd, gyda'i gilydd, yn gallu darparu cyfanswm o tua 3,600 o gartrefi newydd ond mae safleoedd newydd hefyd yn cael eu hasesu i sicrhau y gellir cyflawni'r targed o 4,000 o gartrefi newydd yn y tymor hwy. 

 

Bydd y cartrefi yng Nghilgant Wyndham yn cael eu hadeiladu gan Ventura Properties Ltd o dan gynllun 'cytundeb pecyn', lle mae'r datblygwr yn caffael y tir, yn gofyn am ganiatâd cynllunio, yn gwneud yr holl waith a, phan fydd y cartrefi'n cael eu hadeiladu i'r safon ofynnol, yn eu gwerthu i'r cyngor.

 

Mae'r math hwn o gaffael eiddo yn un o nifer o lwybrau cyflenwi y mae'r cyngor yn ymgymryd â nhw er mwyn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd uchel.  

 

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried y cynigion mewn cyfarfod ddydd Iau nesaf.

 

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=6663&LLL=1