Back
Adeiladu ar lwyddiannau'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer dyfodol Caerdydd

04.03.2022

A crowd of people in a city squareDescription automatically generated with medium confidence

© WalesOnline Ffotograff: Matthew Horwood

Mae adroddiad sy'n tynnu sylw at waith ymgysylltu â'r gymuned, mentrau allweddol a chamau nesaf y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, 20 mis ar ôl ei sefydlu i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol yng Nghaerdydd, wedi'i gyhoeddi heddiw.

Cynigiwyd y tasglu ym mis Gorffennaf 2020 gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn ymateb i farwolaeth drasig George Floyd yn UDA a'r ymgyrch gan fudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y DU yn galw am fwy o gydraddoldeb a chyfiawnder i Gymunedau Pobl Dduon.

Nododd y tasglu flaenoriaethau Caerdydd drwy ymgynghori â thrigolion a datblygodd raglen o newid i sbarduno cydraddoldeb mewn cyflogaeth, llais y dinesydd, gwasanaethau i bobl ifanc, iechyd a chyfiawnder troseddol.

Mae mentrau allweddol y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn cynnwys:

  • Cyflogaeth

Mae Cyngor Caerdydd am sicrhau ei fod yn darparu'r buddion cymunedol mwyaf posibl drwy ofyn i dendrwyr pa 'werth ychwanegol' y gallant ei gynnig os ydynt yn ennill contract, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a lleoliadau gwaith. 

Mae'r contractwyr llwyddiannus yn cael eu cyfeirio at Dimau i Mewn i Waith ac Addewid Caerdydd y Cyngor fel y gallant sicrhau bod cyfleoedd ar gael i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys trigolion o leiafrifoedd ethnig.

Gallai datblygiad arena Bae Caerdydd, y mae disgwyl iddi agor ddiwedd 2024 ac a fydd yn cael ei weithredu gan Live Nation, greu hyd at 2,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda 1,000 o swyddi eraill pan fydd y lleoliad ar waith.

Yn ogystal â sicrhau safle'r arena fel canolfan ganolog ar gyfer digwyddiadau byw yn y DU, blaenoriaeth arall fydd sefydlu'r lleoliad fel hyb cymunedol i'r ardal leol, wedi'i gwreiddio'n gadarn o fewn y gymuned.

Fel cyflogwr sy'n recriwtio gan ddefnyddio CVs heb enw a chyfeiriad  wrth recriwtio, sy'n mynd i'r afael â rhagfarn anymwybodol drwy gyflwyno hyfforddiant i gyfwelwyr ac sydd wedi ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw ers mis Medi 2012, bydd Cyngor Caerdydd yn llofnodi'r Compact Swyddi Cymunedol ar 7 Mawrth a fydd yn helpu i hyrwyddo cyfleoedd gwaith yn y gymuned ac yn cefnogi pobl leol i ymgeisio am swyddi.

 

  • Llais y Dinesydd

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i barhau i wella amrywiaeth mewn democratiaeth ledled y ddinas a dod yn Gyngor Amrywiol.

 

Roedd pasio'r Datganiad Cyngor Amrywiol ym mis Chwefror 2022 yn rhoi ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth mewn democratiaeth yn ein dinas ac yn arwydd o fwriad i gydweithio yn y dyfodol i wella cynrychiolaeth mewn democratiaeth a chyfranogiad.

 

Yn dilyn mabwysiadu'r Datganiad Cyngor Amrywiol, bydd cynllun gweithredu 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth' lleol uchelgeisiol yn cael ei ddatblygu yn dilyn etholiadau Llywodraeth Leol Mai 2022.

 

Bydd y cynllun gweithredu hwn yn cyfrannu at ddemocratiaeth leol fywiog ac yn helpu i ddarparu Cyngor sy'n adlewyrchu amrywiaeth fawr cymunedau ein dinas.

 

Bydd Cyngor Caerdydd yn llofnodi Maniffesto Cynghrair Hil Cymru ar 7 Mawrth, gan ymrwymo i'r 10 cam i wneud Cymru'n genedl wrth-hiliol.

 

  • Gwasanaethau i Bobl Ifanc

 

Mae tim addysgCyngor Caerdydd wedi cynhyrchu canllawiau statudol ‘Hawliau, Parch a Chydraddoldeb' er mwyn rhoi cyngor i alluogi i werthoedd parch, goddefgarwch a charedigrwydd gael eu hymgorffori yn ein hysgolion ac yn y gymuned ehangach.

 

Mae'r ddogfen ar gael i'w darllen  yma.

 

Hefyd,Ysgol Gynradd Mount Stuart oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i dreialu Hyfforddiant Gwrth-Hiliaeth a grëwyd gan wyres Betty Campbell o ganlyniad i gynnig gan y tasglu ym mis Medi 2021.

 

Nod y pecyn cymorth ‘Hybu Cydraddoldeb' yw Addysgu, Grymuso a Chyfoethogi ysgolion gyda'r adnoddau, y cymorth a'r sgiliau sydd ei hangen i helpu i ehangu dealltwriaeth a herio safbwyntiau ac ymwreiddio newid hirdymor yn y system addysg a'r tu hwnt.

 

Ers y lansiad ym mis Rhagfyr, mae Teilo Sant hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno'r hyfforddiant yn yr ysgoli sicrhau gwell dealltwriaeth a grymuso arweinwyr ysgolion a fydd hefyd o fudd i les myfyrwyr ac athrawon.

 

Dysgwch fwy  yma.

 

  • Iechyd


Mae Cydlynydd Ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar iechyd lleiafrifoedd ethnig a gwella iechyd wedi'i ariannu drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag adnoddau Atal a Blynyddoedd Cynnar.

 

Ffocws cychwynnol y rôl fu cynyddu'r nifer o blant sy'n cael eu himiwneiddio a sgrinio'r coluddyn.

 

Mae gwaith ymgysylltu â'r gymuned wedi digwydd gyda grwpiau amrywiol gan gynnwys Coleg Caerdydd a'r Fro, Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon, grwpiau Cyfeillion a Chymdogion (FAN), The Mentor Ring, Women Connect First, Race equality first, Oasis, Kiran Cymru, Diverse Cymru, Dechrau'n Deg, Cyngor Hindŵaidd, Cyngor Sikh, cymuned Tsieineaidd Caerdydd, addoldai, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd a gwasanaethau gwirfoddol Bro Morgannwg.

 

Mae grwpiau ffocws i hyrwyddo sgrinio'r coluddyn i Bobl Hŷn, gan gynnwys Age Connect, fforwm 50+, Gofal a Thrwsio Cymru, Cavamh, Tŷ Hapus, Pobl Hŷn Cymru hefyd wedi digwydd ledled y ddinas.

 

Mae gwaith wedi'i gwblhau ar arolwg i ymchwilio i rwystrau posibl o ran ymgysylltu â sgrinio canser y coluddyn ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig, ac ymwelwyd â gweithgareddau rhieni ifanc gydag arolwg â'r nod o ddarganfod mwy am rwystrau rhag imiwneiddio plant. Bydd canfyddiadau'r gwaith hwn yn llywio'r cynllun o 2022 ymlaen.

 

  • Cyfiawnder Troseddol

 

Er mwyn cefnogi gwaith Is-grŵp Cyfiawnder Troseddol y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, archwiliwyd data cyfiawnder troseddol presennol i ddeall tueddiadau a bylchau data cyfredol.

 

Cytunwyd y byddai'r Bartneriaeth Caerdydd leol yn cefnogi ymchwilio a datblygu setiau data cyfiawnder troseddol ymhellach, gan gefnogi cynlluniau peilot a cheisiadau perthnasol wrth i brosiect Cenedlaethol Grŵp Gorchwyl Data Cymru ddatblygu.

 

Yn ychwanegol at hyn, mae partneriaid cyfiawnder troseddol yng Nghaerdydd wedi cynnig gweithio mewn partneriaeth barhaus â sefydliadau cymunedol lleol i rannu data lleol perthnasol a fyddai o gymorth wrth lywio a llunio atebion wedi'u harwain gan y gymuned i atal troseddu, i ddargyfeirio ac i gynnig cymorth adsefydlu.

 

Dywedodd Cadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol a Chynghorydd Butetown, y Cynghorydd Saeed Ebrahim: "Mae Caerdydd bob amser wedi bod yn ddinas amrywiol a balch ac mae ynddi un o'r cymunedau ethnig lleiafrifol hynaf yn y DU gyda phobl o bob rhan o'r byd yn ei gwneud yn gartref iddynt.

 

"Mae'r gwaith a arweiniwyd gan Dasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd ers ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2020 wedi mynd y tu hwnt i wneud argymhellion yn unig, rydym wedi gwneud pethau. Drwy ymgynghori ag unigolion craff mewn ystod o ddiwydiannau a sefydliadau a gyda'rGymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i gasglu barn ar flaenoriaethau'r tasglu, rydym wedi sicrhau newid gwirioneddol.

 

"Yn ogystal, mae ymdrechion helaeth y Tasglu wedi arwain at bolisïau, mentrau a chamau gweithredu newydd a fydd yn cael eu gwreiddio o fewn yr ardaloedd perthnasol ledled y ddinas.

 

"Rwy'n falch o'r atebion a'r cynigion y mae'r tasglu hwn yn eu rhoi ar waith i adeiladu dinas gadarnhaol a chynhwysol a helpu i sicrhau y caiff cenedlaethau'r dyfodolyr un cyfleoedd mewn bywyd; a bydd addysg a gwaith yn ddau faes allweddol lle gallwn barhau i helpu i wneud gwahaniaeth i bobl."

 

"Rwy'n teimlo'n gadarnhaol wrth edrych tua'r dyfodol a'r posibiliadau o ran yr hyn sydd eto i ddod."
 

Dywedodd Yaina Samuels, sylfaenydd Nuhi Training, enillydd Gwobr Dewi Sant (y person du cyntaf i ennill y wobr hon), rheolwr cymwysedig, mentor, ymgyrchydd adfer byd-eang arobryn ac aelod o’r Tasglu: "Rydym wedi arloesi newid mawr drwy wrando ar y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac mae gweld y newid hwnnw'n digwydd ar lawr gwlad yn golygu ein bod yn gwneud yn fwy na dim ond siarad am newid.

Mae’r ddogfen hon yn fwy na rhywbeth rydym wedi treulio oriau'n ei ddatblygu, ei greu, ymgynghori arno, a’i hysbysu ac yna ei roi o’r neilltu. Mae hon yn ddogfen sy'n mynd i newid wrth i ni fynd yn ein blaenau ac rwyf wrth fy modd o fod yn rhan o'r newid hwnnw. Mae wedi bod yn hollol anhygoel.

 

"Nid y diwedd yw hwn. Os gallaf fod yn rhan o'r gwaith monitro a gwerthuso, lle rydym yn bwydo i mewn tystiolaeth o newid, yna mi fydda i gyda chi." 

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:   "Mae'r bobl, y grwpiau, y diwydiannau a'r sefydliadau sy'n rhan o'r tasglu hwn wedi ymrwymo'n wirioneddol i droi syniadau'n weithredoedd, gan ganolbwyntio ar faterion tactegol lle gall y Cyngor, a phartneriaid eraill, weithredu'n gyflym, a symbylu newid mewn eraill, gan ymateb i wir anghenion ein cymunedau. Mae'n adroddiad cadarn a chynhwysfawr, ac rwyf yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o'i lunio.

 

"Fy ymrwymiad, yn gyfnewid am hynny, yw gwneud popeth o fewn fy ngallu i weithredu'r argymhellion sydd wedi'u cyflwyno. Mae pobl o liw yn y ddinas hon - ac ar draws y byd - yn dal i wynebu hiliaeth fel rhan o'u bywydau bob dydd hyd yn oed heddiw, ac yn parhau i wynebu rhwystrau a heriau o ganlyniad i liw eu croen. Mae hynny'n annerbyniol, ac rwy'n credu ac yn gobeithio y bydd argymhellion y Tasglu yn cynnig map pendant i newid pethau er gorau yng Nghaerdydd."

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

 

Bydd cynigion y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn cael eu cynnwys ym meysydd perthnasol Cynlluniau Cyflawni Cyngor Caerdydd ar gyfer 2022 - 2023 i sicrhau parhad a datblygiad y mentrau hyn er budd trigolion Caerdydd.

 

Mae adroddiad llawn y tasglu i'w weld yma.

 

Dilynwch #RETCDF ar Facebook, Twitter ac Instagram ar gyfer uchafbwyntiau a chyfweliadau gydag aelodau'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hil yng Nghaerdydd.