Back
Ymgynghoriad cyhoeddus yn cefnogi'r cynnig i ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch

 

 


5/3/2022

Mae ymgynghoriad cyhoeddus eang i archwilio effaith ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch wedi datgelu cymeradwyaeth fras i'r cynllun.

O dan gynigion a ddatgelwyd yr haf diwethaf, byddai capasiti presennol 140 o ddisgyblion yn cael ei ehangu i 210 a byddai meithrinfa 48 lle yn cael ei chreu i gynnig gofal plant ac addysg cyn-ysgol i blant tair oed, yn unol â pholisi Cyngor Caerdydd.

Mae'r Cyngor yn credu y bydd tai newydd a gynlluniwyd ar gyfer gogledd-orllewin Caerdydd yn golygu mwy o alw am leoedd ysgol a meithrin a bwriedir i ran o gost y cynllun gael ei hariannu gan gyfraniadau gan ddatblygwyr.

Ar 14 Rhagfyr y llynedd, dechreuodd y Cyngor ganfasio barn rhieni, athrawon, trigolion lleol, plant ac ystod eang o grwpiau eraill, gan gynnwys y cyngor cymuned, llywodraethwyr ysgol, undebau athrawon, Estyn a meithrinfa breifat yn neuadd bentref Pentyrch.

Erbyn i'r broses ddod i ben, ar 25 Ionawr, roedd y Cyngor wedi derbyn 85 o ymatebion i holiadur ar-lein a thrwy'r post, wedi cynnal cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus ac wedi clywed barn fanwl gan grwpiau proffesiynol.

Bydd Cabinet y Cyngor yn trafod yr ymgynghoriad yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 10 Mawrth.

Dywedodd yr aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, ei bod wrth ei bodd bod yr ymgynghoriad wedi arwain at ymateb da.  "Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd yn golygu bod 41,400 o anheddau newydd yn cael eu creu ar draws y ddinas ac mae nifer o safleoedd wedi'u cynllunio yng ngogledd-orllewin Caerdydd a fydd yn cael effaith sylweddol ar ysgolion yr ardal. 

"Rydym yn disgwyl i un ysgol gynradd newydd yn yr ardal agor ym mis Medi 2023 ac rydym yn bwriadu ehangu Pentyrch i helpu i ymdopi â'r galw cynyddol, felly roedd yn bwysig bod cymaint o bobl a phartïon â diddordeb â phosibl yn mynegi eu barn."

Roedd Estyn, sy'n monitro ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru, o'r farn y byddai'r ysgol estynedig yn cynnal safonau presennol yr ysgol ond, yn gyffredin â rhai ymatebwyr, roedd yn teimlo y gallai fod cynnydd tebygol mewn traffig yn yr ardal.

Mae'r cyngor wedi addo parhau i weithio gyda'r holl grwpiau yr effeithir arnynt drwy gydol camau datblygu'r cynlluniau.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen ymaAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 10fed Mawrth, 2022, 2.00 pm : Cyngor Dinas Caerdydd (moderngov.co.uk)