Back
Y cyhoedd yn rhoi eu barn ar newidiadau i Drefniadau Derbyn i Ysgolion Caerdydd ar gyfer 2023/24


5/3/2022

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar Drefniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd ar gyfer 2023/24 bellach wedi dod i ben ac mae safbwyntiau wedi'u rhoi ar amrywiaeth o gynigion gan gynnwys newidiadau i broses derbyn gydlynol i ysgolion Caerdydd.

Mae'r broses derbyn gydlynol i ysgolion yn galluogi rhieni i wneud cais am le mewn ysgol gan ddefnyddio un ffurflen yn unig ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (ffydd) ac ysgolion sefydledig.

Cafodd y bwriad i gynnwys Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf yn y broses derbyn gydlynol i ysgolion uwchradd o fis Medi 2023 ei gefnogi'n gyffredinol yn ystod yr ymgynghoriad ac awgrymodd yr ymatebion y byddai hyn yn sicrhau bod gwneud cais am le mewn ysgol yn decach ac yn fwy syml ac y bydd y broses ddyrannu yn gweithio'n well gyda mwy o ysgolion wedi'u cynnwys yn y broses derbyn i ysgolion gydlynol.

Mae Cyngor Caerdydd wedi llwyddo i gynnal ei drefniadau derbyn cydlynol i ysgolion ers blwyddyn derbyn 2018/2019, gyda phob Ysgol Uwchradd Gymunedol a thair ysgol uwchradd bartner; Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (ysgol sefydledig), Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant (gwirfoddol a gynorthwyir) ac Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi (gwirfoddol a gynorthwyir).

Roedd y cynigion hefyd yn cynnwys gweithredu proses derbyn gydlynol i ysgolion cynradd ar gyfer derbyn disgyblion i ddosbarthiadau Derbyn o fis Medi 2023 ac roedd yr ymatebion i raddau helaeth yn cefnogi'r symudiad gydag ymatebion yn nodi y byddai'n symleiddio'r broses, yn ei gwneud yn haws ac yn symlach i rieni a disgyblion ac yn atal pobl rhag dal nifer o leoedd yn annheg. Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg wedi bod yn rhan lwyddiannus o'r broses derbyn gydlynol i ysgolion ers mis Medi 2021.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae ein proses derbyn gydlynol i ysgolion yn gwneud y broses o wneud cais am le mewn ysgol mor deg a syml â phosibl i deuluoedd, gan hyrwyddo system decach o ddyrannu lleoedd ysgol yng Nghaerdydd.

"Mae'n galonogol bod cynifer o bobl o blaid ehangu'r broses derbyn gydlynol i ysgolion ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gan nid yn unig yn symleiddio'r broses ond hefyd atal rhieni rhag derbyn nifer o gynigion sy'n atal plant eraill rhag cael cynnig y lleoedd hyn. Gall rhieni nodi ysgolion yn nhrefn eu dewis wrth wneud cais sy'n rhoi gwell cyfle i sicrhau ysgol a ffefrir yn y rownd gyntaf o dderbyniadau ac yn osgoi straen diangen i'r teuluoedd na fyddent fel arall yn cael lle.

"Yn 2020 lansiom ein hymgyrch derbyn i ysgolion a oedd yn ceisio gwneud y broses derbyn i ysgolion mor syml a thryloyw â phosibl fel bod pob teulu yng Nghaerdydd yn cael yr un cyfle i sicrhau un o'u dewis ysgolion. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Archesgobaeth Gatholig ac Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru i ddatblygu cynigion i ehangu'r trefniadau cydlynol, gan helpu i sicrhau ffordd decach a haws o wneud cais am le mewn ysgol" ychwanegodd y Cynghorydd Merry.

Mae newidiadau arfaethedig eraill i Drefniadau Derbyn i Ysgolion Caerdydd ar gyfer 2023/24 yn cynnwys cynyddu'r Niferoedd Derbyn Cyhoeddedig ar gyfer Ysgol Gynradd Pentyrch, Ysgol Y Wern, Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol Gyfun Radur.

Cyflwynir adroddiad sy'n manylu ar ganlyniadau'r ymgynghoriad i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 10 Mawrth. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ymaAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 10fed Mawrth, 2022, 2.00 pm : Cyngor Dinas Caerdydd (moderngov.co.uk)