Back
Cynlluniau ar y trywydd iawn i gyflawni Cyrchfan twristiaeth i Gaerdydd sy'n arwain y DU

7.3.22 

Bydd cynlluniau radical ac eang i drawsnewid Bae Caerdydd yn un o brif gyrchfannau ymwelwyr a thwristiaeth y DU yn cael eu hadolygu yr wythnos hon.

Ddydd Iau, bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn archwilio adroddiad manwl sy'n amlinellu cynnydd prosiectau presennol ac yn datgelu posibiliadau newydd cyffrous a allai helpu i drawsnewid ardal y Bae, gan gynnwys:

  • Y newyddion diweddaraf am Arena Dan Do Caerdydd, a fydd bellach â chapasiti o 17,000, sy'n fwy nag amcanestyniadau cynharach o 15,000
  • Cynigion i ‘wyrddu' Rhodfa Lloyd George gan greu parc trefol, gan gyfnewid y system ffordd ddeuol bresennol sydd heb ei defnyddio'n ddigonol am ffordd sengl safonol, gan dynnu'r goleuadau traffig a chyflwyno tirlunio newydd. Mae ymgysylltu cymunedol i ar hyn i ddigwydd yn y misoedd i ddod
  • Disodli Canolfan y Ddraig Goch ar Lanfa'r Iwerydd gyda chyfadeilad hamdden mwy
  • Ehangu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol i ychwanegu felodrom newydd a lleoliad moto-cross awyr agored i'r stadiwm rinc iâ presennol, pwll rhyngwladol a chanolfannau dŵr gwyn, a
  • Uwchraddio mawr ar y rhwydwaith trafnidiaeth, i gynnwys llwybrau beicio a cherdded diogel o  ganol y ddinas i'r Bae, estyniad i'r Metro gan gynnwys gorsaf newydd i'r gogledd o Sgwâr Loudoun, a'r potensial am hyb trafnidiaeth yn Stryd Pen y Lanfa a chysylltiadau â prosiect Crossrail arfaethedig a'r orsaf Cardiff Parkway newydd ger Llaneirwg

Wrth gefnogi'r cynlluniau, dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y byddai'r camau'n adfywio ac yn 'ail-danio' Bae Caerdydd. "Ein bwriad yw trawsnewid y rhan hanesyddol hon o Gaerdydd yn gyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth, gan gynyddu ymwelwyr ac, yr un mor bwysig, creu mwy o swyddi a chyfleoedd i bobl sy'n byw gerllaw, nid yn unig yn y cyfnod adeiladu ond wrth helpu i redeg yr holl fentrau hyn pan fyddant wedi'u cwblhau."

Mae rhai o'r syniadau cyffrous eraill, y byddai angen i gyllid y Llywodraeth a phartneriaethau'r sector preifat eu datblygu, yn cynnwys:

  • Pwll newydd ar ffurf lido yng Nghei'r Fôr-Forwyn, yn agos at Techniquest, a fydd yn galluogi nofio yn yr awyr agored mewn pwll wedi'i wresogi a mynediad i nofio 'gwyllt' ym Mae Caerdydd
  • Safle digwyddiadau 450,000 troedfedd a sgwâr a pharc ar y glannau ym Mhentir Alexandra, ynghyd ag atyniadau teuluol eraill a thraeth trefol
  • Creu lleoliad diwylliannol fel academi ar gyfer celfyddydau perfformio sy'n gysylltiedig â Chanolfan Mileniwm Cymru, a phrofiad 'hedfan dros Gymru' rhithwir, yn seiliedig ar atyniad sy'n bodoli eisoes yn Amsterdam, gyda'r ddau wedi'u lleoli ger yr arena a Chanolfan Mileniwm Cymru.

"Er ein bod yn bwriadu cyflwyno lleoliadau ac atyniadau o'r radd flaenaf yma i ail-greu unrhyw beth y tu allan i Lundain," meddai'r Cynghorydd Goodway, "yr hyn sydd wir yn allweddol yw gwella'r ffordd o fynd i mewn ac allan o Fae Caerdydd a Glanfa'r Iwerydd sydd wedi'i hadfywio, lle bydd yr arena dan do newydd wedi'i lleoli."

Er bod rhai o'r cynlluniau eisoes wedi'u cynnig, mae'r pandemig wedi oedi cynnydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond mae'r Cyngor yn obeithiol y bydd y rhai sydd eisoes yn y cam cynllunio nawr yn symud ymlaen a bod modd ymchwilio ymhellach i gynlluniau posibl.  Mae llawer yn rhyngddibynnol, gyda chreu'r arena newydd - y bwriedir ei hagor yn gynnar yn 2023 - yn bwysicaf oll i ddatgloi hyder a chronfeydd y sector preifat i ddatblygu prosiectau yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae swyddogion yn sefydlu safleoedd ar gyfer y prosiectau, yn caffael tir lle bo angen ac yn trafod cynigion gan gwmnïau adeiladu, gweithredwyr lleoliadau a chyrff sy'n allweddol i'w llwyddiant, megis Trafnidiaeth Cymru.

Er mwyn helpu i ariannu'r gwaith adfywio, mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwneud cais am gyfran o Gronfa Codi'r Gwastad £4.8bn Llywodraeth y DU a sicrhau arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=6663&Ver=4&LLL=1