Back
Y Diweddaraf am Ardrethi Busnes

08/03/22


Mae Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi ei filiau Ardrethi Busnes blynyddol ar gyfer 2022/2023 ar hyn o bryd, ac mae newidiadau wedi'u gwneud i'r broses ymgeisio eleni.

Yn y gorffennol, mae rhai eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi elwa o dderbyn Rhyddhad Ardrethi o 100% i liniaru'r effeithiau y mae Covid 19 wedi'u cael ar eu busnesau.

O 1 Ebrill 2022 mae Llywodraeth Cymru wedi gostwng lefel y rhyddhad i fusnesau cymwys i 50% a bydd yn rhaid i drethdalwyr wneud cais am y rhyddhad hwn drwy wefan y cyngor. Mae uchafswm y rhyddhad y gall pob busnes ei hawlio wedi'i gapio ar £110,000.

Gellir darllen gwybodaeth am y newidiadau hyn a'r ffurflen gais yma:Oes unrhyw ryddhad ar gael? (caerdydd.gov.uk)