Back
Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd Newydd ar gyfer Llanrhymni


 8/3/22

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni i adeiladu Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA) newydd ar dir gerllaw Neuadd Llanrhymni.

 

Sicrhaodd cynghorwyr lleol arian gan raglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau'r Cyngor, i ddod â chyfleuster chwaraeon newydd i'r gymuned. Bydd yr arian hwn yn galluogi'r Ymddiriedolaeth Gymunedol i adeiladu ardal chwarae 30m x 15m ag arwyneb caled y bydd wedyn yn ei rheoli a'i chynnal a'i chadw.

 

 

Bydd modd i'r gymuned leol ddefnyddio'r AChA hon am ddim a bydd llinellau pêl-rwyd, pêl-fasged a phêl-droed 5 bob ochr yn cael eu marcio ar y safle. Bydd y cyfleuster newydd yn dod â hyd yn oed mwy o gyfleusterau iechyd a chymunedol at ei gilydd ar gyfer y gymuned leol.

 

Mae Cyngor Caerdydd yn gofyn i chi anfon sylwadau ynghylch y cynnig i: AdfywioCymdogaethau@caerdydd.gov.uk erbyn 11 Mawrth 2022. Gall pobl hefyd ofyn am gael siarad ag aelod o'r tîm drwy e-bostio eu henw a'u manylion cyswllt.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Credwn y caiff yr Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd ei chroesawu a'i defnyddio'n fawr ac y bydd yn ychwanegu at yr ystod eang o gyfleoedd y mae Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni eisoes yn eu cynnig i bobl Llanrhymni."