Back
Gwaith yn dechrau ar yr ysgol gynradd gyntaf i gael ei hadeiladu dan Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd

10/03/22 

Mae seremoni torri'r tir arbennig yn nodi dechrau'r gwaith adeiladu ar ysgol gynradd newydd i'w lleoli yn natblygiad St Edern. 

A group of people wearing safety vests and standing in a fieldDescription automatically generated with low confidence

Yr ysgol gynradd £6m newydd fydd y gyntaf i gael ei darparu fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd a bydd yn gartref newydd sbon i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, a fydd yn adleoli o'i safle presennol yn Llanrhymni.

Torrwyd y tirar y safle gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, Aelod Cabinet Caerdydd dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg,Jane Marchesi a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Gary Twell.

Daeth disgyblion o'r ysgol i'r digwyddiad hefyd ac ymunodd cynrychiolwyr o Halsall Construction a Persimmon Homes Dwyrain Cymru â nhw.

Bydd yr ysgol newydd, a ddarperir gan Halsall Construction ar ran Persimmon Homes, yn gwasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg a bydd yncael ei lleoli i'r dwyrain o ffordd gyswllt Pontprennau. Bydd yn ysgol 1 dosbarth mynediad, â lle i 210 o ddisgyblion, gan gynnwys meithrinfa ran-amser â 48 lle, gyda'r cyfle i ehangu i 2 ddosbarth mynediad (420 lle) yn y dyfodol. Bydd cyfleuster cymunedol yn gysylltiedig â'r ysgol gyda mynedfa breifat a mynedfa gydgysylltiedig sy'n cynnig buddion i'r gymuned ehangach.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae torri'r tir yn garreg filltir gyffrous i'r safle ysgol newydd a fydd, ar ôl ei gwblhau, yn darparu amgylchedd dysgu modern o'r radd flaenaf i ysbrydoli staff a disgyblion.

"Mae'r datblygiad tai yn St Edern eisoes yn boblogaidd iawn, gan greu cynnydd sylweddol yn y galw am leoedd ysgol yn yr ardal. Bydd gan yr ysgol newydd ffocws cymunedol sy'n rhoi cyfleoedd i bobl leol gael mynediad at gyfleusterau yn ogystal â sicrhau bod lleoedd ysgol ar gael."

Dywedodd y Pennaeth, Jane Marchesi: "Mae pawb yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn falch iawn o weld y gwaith o adeiladu ein hysgol newydd yn dechrau. Wrth i ni ddathlu'r bennod newydd hon yn hanes yr ysgol, byddwn yn adeiladu ar sylfaen o lawer o atgofion hapus o fywyd ysgol yn Llanrhymni a Phentref Llaneirwg.

"Edrychwn ymlaen at dyfu ac at yr holl gyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig i'n disgyblion, ein teuluoedd a'r gymuned leol. Gobeithiwn fod yn gyfleuster allweddol wrth galon y gymuned a byddwn yn awyddus i groesawu pawb i deulu ein hysgol."

A group of people wearing orange vests and standing in front of a signDescription automatically generated with low confidence

Dywedodd Lee Woodfine, Rheolwr Gyfarwyddwr Persimmon Homes Dwyrain Cymru: "Mae'n ddiwrnod balch i Persimmon wrth i'r gwaith ddechrau ar yr ysgol gynradd newydd hon yn ein datblygiad yn St Edern.

"Bydd hon yn ysgol o'r radd flaenaf i blant Llaneirwg, Pontprennau a Llanrhymni, gan sicrhau bod eu taith addysgol yn dechrau yn yr amgylchedd cywir.

"O'r cychwyn cyntaf rydym wedi ymrwymo i greu cymuned newydd yn St Edern ac mae'r ysgol yn rhan bwysig o hynny."

Dywedodd Andy Corp, Rheolwr Gyfarwyddwr Halsall:  "Mae gennym brofiad helaeth o adeiladu ysgolion newydd ar draws de-orllewin Lloegr ac rydym wrth ein bodd bod Persimmon wedi ein dewis unwaith eto i ddarparu'r ysgol gyntaf o dan Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd. 

"Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol a fydd yn darparu deunyddiau lleol i ni ac a fydd hefyd yn cynnig cyfleoedd gwaith yn yr ardal wrth i ni adeiladu'r ysgol newydd. "Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am gynnydd wrth i ni ganolbwyntio ar ddarparu'r ysgol newydd i'r gymuned ac ni allwn aros i weld y gwerth y bydd yn ei ychwanegu."

Mae adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn rhan o ddatrysiad strategol i ail-gydbwyso'r ddarpariaeth gynradd mewn rhannau o ogledd-ddwyrain Caerdydd yn sgil lleoedd gwag mewn ysgolion cynradd yn ardal Llanrhymni a'r angen am leoedd ychwanegol ym Mhentref Llaneirwg a rhannau o Bontprennau pan fydd datblygiad tai St Edern wedi'i gwblhau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn gyfle cyffrous i ddisgyblion a staff, a fydd yn rhoi cyfleusterau ardderchog iddynt ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem o leoedd dros ben yn Llanrhymni, sydd wedi gosod straen sylweddol ar gyllidebau ysgol yr ardal."
 

Mae St Edern yn ddatblygiad yng ngogledd-ddwyrain y ddinas fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd, sy'n nodi'r seilwaith sydd ei angen i hwyluso a chynnal twf y ddinas hyd at 2026.

 

Cytunwyd y byddai'r ysgol yn cael ei hadeiladu gan y datblygwr, Persimmon, fel rhan o'r cytundeb cynllunio gyda'r Cyngor, a'i hariannu drwy gyfraniadau Adran 106.

Yn amodol ar gaffael, disgwylir i'r ysgol newydd fod yn barod i'w meddiannuerbyn Pasg 2023.