Back
Rhyddhau adroddiad o bwys ar ofynion gofal Caerdydd a'r Fro

Mae anghenion newidiol preswylwyr Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gynnwys rhai mewnwelediadau cynnar i effaith y pandemig, wedi’u hamlinellu mewn adroddiad newydd pwysig.

Mae Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022 ar gyfer rhanbarth Caerdydd a Bro Morgannwg yn amlinellu anghenion gofal a chymorth poblogaeth y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf, ac ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu'r angen hwnnw.

Mae’r adroddiad, a gafodd ei lunio dros y 10 mis diwethaf gan dimau ar draws Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn cynnwys canlyniadau cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus gan gynnwys arolygon ar-lein, 23 o grwpiau ffocws a chyfweliadau gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, fod yr adroddiad yn arf hanfodol yn ymgais y ddinas i ddarparu'r cymorth gorau lle'r oedd ei angen fwyaf. "Mae sawl agwedd ar yr adroddiad y bydd angen ein holl arbenigedd ac adnoddau arnynt i fynd i'r afael â nhw," meddai. "Mae gan lawer o'r materion a amlygwyd gysylltiad uniongyrchol ag amddifadedd, ond mae'r Cyngor wedi cymryd camau cadarnhaol yn y maes hwn wrth gefnogi pobl allan o dlodi.

"Rhwng 2017 a 2019, mae nifer yr oedolion mewn tlodi materol (y graddau y gall pobl fforddio eitemau fel gwres a bwyd) yng Nghaerdydd wedi gostwng o 16% i 13%. Ac er bod ffactorau sy'n effeithio ar dlodi sydd allan o'n rheolaeth ni fel Cyngor, rydym wedi gwneud llawer o waith effeithiol yn hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

"Drwy ein hymrwymiadau ein hunain a chynyddu'r nifer o gyflogwyr sydd wedi'u hachredu fel cyflogwyr Cyflog Byw ar draws y ddinas o 33 yn 2017 i fwy na 160 heddiw, mae dros 61,000 o bobl yn y ddinas yn gweithio i gyflogwr Cyflog Byw, gyda bron i 8,000 o'r rheini'n cael codiad cyflog oherwydd yr ymdrechion hyn. Mae hynny hefyd wedi golygu bod £39m yn ychwanegol yn mynd i economi Caerdydd."

Mae'r adroddiad yn ymdrin ag ystod eang o feysydd, gan fynd i'r afael ag anghenion nid yn unig y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ond hefyd eu gofalwyr – cyflogedig a di-dâl. Mae'n cydnabod y gwaith caled a wnânt ond mae'n argymell gwella mynediad at wasanaethau a darparu gofal seibiant wrth i nifer y bobl sy'n agored i niwed gynyddu.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey, aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Blant a Theuluoedd: "Mae gofalwyr yn hanfodol i'r system iechyd a gofal gyfan ac mae'r adroddiad yn cydnabod hyn. Credwn fod dros 57,000 o ofalwyr yng Nghaerdydd a'r Fro, a rhagwelir y bydd y nifer hon yn codi i fwy na 60,000 erbyn 2040.

"Ceisiwyd safbwyntiau llawer ohonynt wrth lunio’r adroddiad ac mae'n bwysig ein bod yn gweithredu ar eu syniadau a'u hanghenion."

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y gwelliannau a wnaed ar draws pob maes gofal ers cyhoeddi'r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth cyntaf yn 2017. Ac mae hyn er gwaethaf effeithiau Covid-19. Fodd bynnag, roedd rhai meysydd yn peri pryder, gan gynnwys:

  • Nodwyd bod ynysigrwydd cymdeithasol yn broblem yn adroddiad 2017 ac mae’r pandemig wedi gwaethygu’r broblem hyd yn oed yn fwy
  • Mae angen dull mwy cyfannol o ymdrin ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol, gan gynnwys gwell mynediad at wasanaethau a lleihau rhestrau aros, ac
  • Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ac mae angen eu cyfeirio'n well. Gelwir hefyd am fwy o ofal seibiant.

Mae hefyd yn cyhoeddi sylwadau cadarnhaol sydd wedi deillio o'r ymgynghoriadau cyhoeddus a'r grwpiau ffocws ac yn awgrymu nad yw llawer o ymatebwyr yn chwilio am ofal a chymorth traddodiadol ond yn hytrach am:

  • Addysg a chyflogaeth
  • Tai a llety
  • Anogaeth a chefnogaeth i wneud gweithgareddau iach
  • Gwelliannau i'r amgylchedd ffisegol, mannau gwyrdd ac ati.

Dywedodd arweinydd y Cyngor, Huw Thomas: "Mae'r rhain i gyd yn feysydd yr ydym ni fel Cyngor wedi bod yn canolbwyntio arnynt oherwydd ein bod yn gwybod y gall pob un ohonynt gael effaith ar iechyd a lles.

"Ym maes addysg, rydym wedi buddsoddi £450m mewn ysgolion drwy ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac mae nifer y bobl yng Nghaerdydd sydd â chymhwyster lefel gradd wedi cynyddu 30.2% rhwng 2012 a 2020 ac yn yr un cyfnod mae'r rhai heb gymwysterau o gwbl bron wedi haneru, o 9.7% i 5.3%.

"O ran yr hyn y gallwn fynd i'r afael ag ef, rydym wedi lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o deuluoedd incwm isel a'r rhai o gefndiroedd mwy cefnog, a rhwng 2010 a 2017 mae'r bwlch mewn cyflawniad rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys wedi crebachu mwy nag 8%.

"Ers 2017, mae ein Tîm Cyngor Ariannol wedi helpu ein trigolion i hawlio mwy na £75m mewn budd-daliadau wythnosol ychwanegol, ac mae canran yr aelwydydd di-waith wedi gostwng o 18.2% yn 2015 i 12.9% yn 2020.

"Mae cyfradd diweithdra Caerdydd wedi gostwng o 9.8% yn 2011-12 i 4.9% yn 2020-21, diolch yn rhannol i 3,600 o bobl yn dod o hyd i waith ers 2018 gyda chymorth ein gwasanaeth i Mewn i Waith a'r Cyngor ei hun yn creu a diogelu 5,000 o swyddi newydd ers 2019-20.

"Yng Nghaerdydd rydym wedi lleihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd o 130 yn 2019 i ddim ond 20 heddiw, rydym wedi cychwyn ar raglen enfawr i ddarparu 4,000 o gartrefi cyngor newydd ledled y ddinas ac mae ein menter 'Symud Mwy Caerdydd' yn targedu adnoddau tuag at gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch iach ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig yn arc ddeheuol llai cyfoethog y ddinas.

"Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu bod llawer i'w wneud o hyd ond rydym wedi ymrwymo i wella bywydau ein trigolion yn gyson, yn enwedig y rhai sydd angen ein cymorth fwyaf. Mae darparu gwell swyddi, tai gwell a mwy fforddiadwy ac addysg well yn ffactorau allweddol wrth dynnu pobl allan o dlodi, ac mae dod allan o dlodi yn ffactor allweddol wrth wella eu hiechyd."

Ychwanegodd fod y Cyngor hefyd yn canolbwyntio ar greu amgylchedd mwy gwyrdd a glanach fyth ar draws y ddinas, gan ddweud: "Ni yw'r ddinas sydd â’r nifer fwyaf o wobrau'r Faner Werdd yng Nghymru, sef y meincnod cenedlaethol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd, a'r ddinas sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran darparu mannau gwyrdd o fewn pellter cerdded i drigolion."

Meysydd a gwmpesir gan yr adroddiad, ynghyd â rhai canfyddiadau, ac argymhellion:

Plant a phobl ifanc, a'r rhai ag anghenion cymhleth

  • Yn 2018, Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yng Nghymru i ddatblygu'r strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant a gefnogir gan UNICEF a chafwyd llu o fentrau ledled y rhanbarth ers hynny i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cydnabod
  • Yn ystod y pandemig, cafwyd gostyngiad yn nifer y plant a gafodd eu trin mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ysbytai - 21,317 yn 2020-21, o gymharu â 34,900 y flwyddyn flaenorol. Mae'n debyg bod hyn o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud, ond i'r gwrthwyneb bu cynnydd yn y niferoedd a oedd yn dod i'r ysbyty gyda phroblemau fel hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta.
  • Byddai plant ag anghenion cymhleth yn elwa ar hyfforddiant i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac
  • Mae eu teuluoedd eisiau mwy o gefnogaeth gan gymheiriaid, gan gynnwys mentora gan deulu arall i rannu profiad byw

Pobl hŷn

  • Mae angen gwneud mwy i integreiddio gwasanaethau gofal a chymorth i alluogi pobl hyn i fyw'n annibynnol ac yn dda gartref cyhyd ag y bo modd
  • Cynyddodd y pandemig deimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd, pryder ac ofn
  • Ond mae gwasanaethau wedi addasu'n dda, ac mae mwy o bobl wedi gallu eu cyrchu; hefyd, gwirfoddolodd llawer o bobl yn eu cymunedau i helpu pobl hŷn, gan gynnig cymorth gyda siopa, casglu presgripsiynau, a bod yn gyfaill dros y ffôn

Pobl ag anableddau corfforol

  • Mae'r adroddiad yn datgelu bod dwy ran o dair o'r marwolaethau o Covid-19 yn bobl anabl, ac yn argymell
  • Gweithio tuag at ddiwylliant cadarnhaol a chynhwysol i bobl anabl a pharhau i hyrwyddo byw'n annibynnol

 Anabledd dysgu

  • Mae'r adroddiad yn argymell canolbwyntio gwasanaethau ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn, megis annog ffordd o fyw egnïol ac annibynnol a hyrwyddo cyfeillgarwch
  • Parhau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar archwiliadau a sgriniau iechyd blynyddol

Awtistiaeth

  • Gwella ymwybyddiaeth ehangach o awtistiaeth a datblygu diwylliant cefnogol

Iechyd meddwl oedolion

  • Lleihau nifer yr achosion o hunanladdiad a nifer y bobl sy’n ceisio lladd eu hun a digwyddiadau o hunan-niweidio, a lleihau'r effaith y mae'r rhain yn ei chael ar ofalwyr

Dementia

  • Creu llwybr gofal personol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr gan adeiladu ar Strategaeth Dementia Caerdydd a'r Fro 2018.

Gofalwyr di-dâl sy'n oedolion

  • Mae'r pandemig wedi effeithio'n wael arnynt. Mae gwasanaethau wedi'u dileu a gwelir bod y berthynas rhwng y gofalwr a'r rhai y gofelir amdanynt yn dirywio
  • Argymhellir ystyried seibiant hyblyg i ofalwyr di-dâl a lleihau amseroedd aros am gymorth iechyd meddwl

Nam ar y synhwyrau

  • Mae mwy o angen am wasanaethau Iaith Arwyddion Prydain
  • Mae nifer y swyddogion adsefydlu ar gyfer pobl ddall (un yng Nghaerdydd, un yn y Fro) yn annigonol i ddiwallu'r angen

Camddefnyddio sylweddau

  • Mae 20% o oedolion yng Nghaerdydd yn yfed o leiaf 14 uned o alcohol yr wythnos, o gymharu â chyfartaledd Cymru o 19%
  • Alcohol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o gamddefnyddio sylweddau, ac yna heroin, canabis a chocên
  • Yn ystod y pandemig gwelwyd cynnydd 'digynsail' mewn marwolaethau yn sgil problemau’r afu. Er i dafarndai gau am 31 wythnos arhosodd pryniannau alcohol yn gyson

Carcharorion

  • Arolygwyd Carchar Caerdydd yn 2019 ac roedd gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud i ffigurau 2016 o ran diogelwch, parch a 'gweithgarwch pwrpasol'
  • Cafwyd llai achosion o hunan-niweidio yn ystod y pandemig
  • O'r 200 o bobl sy’n cael eu rhyddhau ar gyfartaledd bob mis, mae 47% yn dweud nad oes ganddynt gartref i fynd iddo
  • Mae angen cryfhau'r llwybrau i gynllunio ar gyfer rhyddhau o'r carchar i'r gymuned

Ceiswyr lloches/ffoaduriaid

  • Mae Caerdydd eisoes yn Ddinas Noddfa ac mae Cymru'n anelu at fod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd gyda hanes hir o groesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
  • Dylid annog landlordiaid i gynnig mwy o gartrefi i ffoaduriaid
  • Mae angen wedi’i nodi ar gyfer gwell integreiddio, cydlyniant cymunedol a chlinigau iechyd galw heibio

Cyn-Filwyr

  • Dylai cynghorau ystyried cerdyn adnabod cyn-filwyr i roi statws blaenoriaeth i rai gwasanaethau cyhoeddus
  • Mae gofal iechyd meddwl yn angen sylfaenol

Mae adroddiad Asesiad o Anghenion Poblogaeth 2022 yn mynd gerbron Cabinet y Cyngor ddydd Iau pan ddisgwylir iddo gael ei gymeradwyo'n ffurfiol.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma: Item 16 Cab Agenda Briefing 23 Feb 2022 Pop Needs Assess.pdf