Back
Cyhoeddi’r cerflunydd fydd yn creu cerflun o arwyr rygbi Bae Caerdydd

17.3.22

Mae’r gwaith o greu cerflun i anrhydeddu 'torwyr cod' y byd rygbi o Fae Caerdydd, a adawodd etifeddiaeth barhaus ar fyd rygbi'r gynghrair, wedi cymryd cam mawr ymlaen yn ei ymgyrch codi arian.

Roedd y cerflun, a fydd yn anrhydeddu tri o'r chwaraewyr mwyaf blaenllaw a symudodd yn ddadleuol o yrfaoedd amatur yr undeb i serennu yn nhimau rygbi'r gynghrair proffesiynol Lloegr, yn destun ymgyrch codi arian dan arweiniad y dyn busnes o Dde Cymru, Syr Stanley Thomas OBE.

Wrth nesáu at ei darged, mae'r pwyllgor codi arian bellach wedi comisiynu'r cerflunydd Steve Winterburn i greu'r heneb i'r arwyr chwaraeon, Billy Boston, Clive Sullivan a Gus Risman, y tri o Butetown a hen ardal Tiger Bay.

Meddai Syr Stanley: "Fe wnes i ymrwymiad ddwy flynedd yn ôl i gyflawni ein targed codi arian a chomisiynu'r cerflun o fewn dwy flynedd. Er bod Covid wedi effeithio'n sylweddol ar ein hymdrechion i godi arian, mae'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn rhyfeddol.

"Hoffwn ddiolch i Vaughan Gething AoS, Llywodraeth Cymru ac arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas, yn ogystal â Gaynor Legall, cadeirydd y Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol, Gareth Kear, pennaeth Cynghrair Rygbi Cymru, ein pwyllgor a'n cynghorwyr ac, wrth gwrs, y cyhoedd sydd wedi rhoi i'r achos."

Mae gan Winterburn, o Yorkshire Fine Arts, gyfoeth o brofiad yn dathlu arwyr ym myd y campau ac mae eisoes wedi anfarwoli Billy Boston mewn cerflun yn Wigan ac wedi creu’r cerflun eiconig 'Arwyr' rygbi'r gynghrair yn Stadiwm Wembley.

Roedd Boston, ynghyd â Sullivan a Risman, yn torri tir newydd wrth symud i ogledd Lloegr, gan oresgyn rhagfarn i fod yn sêr nid yn unig yn eu cymunedau mabwysiedig newydd ond hefyd yn y timau Prydain Fawr yr oeddent yn eu cynrychioli.

"Daethant ag anrhydedd iddynt eu hunain, eu teuluoedd, y gêm a'r cymunedau lle cawsant eu magu," meddai'r Cynghorydd Thomas, "a bydd y cerflun hwn yn deyrnged addas i'r arwyr hyn. Rydym wrthi’n chwilio am y lle mwyaf addas ym Mae Caerdydd i osod y cerflun pan fydd wedi'i gwblhau."

Dywedodd Vaughan Gething, yr aelod o'r Senedd y mae ei etholaeth yn cynnwys Bae Caerdydd: "Mae wedi cymryd amser hir i Gymru anrhydeddu rhai o'r arwyr chwaraeon hyn a chredaf y bydd y cerflun hwn yn gadael etifeddiaeth hirhoedlog lle caiff mawredd y chwaraewyr hyn ei ddathlu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

 Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yn www.torwyrcodybydrygbi.co.uk/cy