Back
Agoriad Swyddogol Capel i Bawb

17/3/22
 

Cynhaliodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro  agoriad swyddogol yr hen Gapel yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd (CRI),a elwir bellach yn ‘Capel i Bawb', heddiw.

 

Diolch i gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru,Y Gronfa Gofal Integredig,a phartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyngor Caerdydd, mae'r adeilad eiconig, rhestredig Gradd II, bellach yn gartref i ganolfan gwybodaeth a chyngor iechyd a lles, llyfrgell newydd, mannau cyfarfod, ystafell TG a Chaffi Aroma. 

 

Dywedodd Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a agorodd Capel i Bawb yn swyddogol: "Mae Capel i Bawb ar ei newydd wedd yn brosiect sydd yn parchu hanes yr adeilad tra'n rhoi bywyd newydd a dyfodol cynaliadwy iddo. Rwy'n falch iawn bod rhaglen gyfalaf Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru wedi gallu bod yn rhan o'r prosiect cydweithredol hwn."

 

DywedoddCath Doman,Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: "Mae wedi bod yn bleser rhoi bywyd newydd i Capel i Bawb. Mae'n enghraifft wych o sut y gall partneriaid gydweithio i ddod â gwasanaethau i gymunedau a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud defnydd llawn o bob gofod a allwn - gallwch fenthyg llyfr, dal i fyny â ffrindiau dros baned a chael cefnogaeth a chyngor i gyd yn y Capel trawiadol sydd wedi'i adnewyddu'n sympathetig."

 

Ychwanegodd Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae Capel i Bawb yn rhan o'n cynllun hirdymor i ddod â gwasanaethau i gymunedau a bydd yn rhan allweddol o ddatblygiad Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Gwyddom ei bod yn well ceisio helpu pobl i fyw'n dda a gwella ar ôl salwch neu anaf a bydd y gofod hwn yn gallu bod yn gartref i amrywiaeth o gymorth. Mae hefyd yn lle gwych i ymweld ag ef tra bod pobl yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau gweld y trawsnewidiad sydd wedi digwydd."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae trawsnewidiad trawiadol yr hen gapel wedi creu cyfleuster iechyd a lles bywiog ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr â CRI, ac mae gweithio mewn partneriaeth i gyflawni'r cynllun wedi bod yn allweddol i'w lwyddiant.

 

"Bydd Capel i Bawb yn adnodd gwerthfawr lle gall cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a'r gymuned leol gael eu cyfeirio at wybodaeth a chyngor perthnasol a hygyrch, dysgu cymdeithasol a gweithgareddau hamdden.

 

"Mae potensial y lle newydd hwn i gefnogi a grymuso pobl i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain yn gyffrous iawn."

 

Dathlodd Capel i Bawb ei ganmlwyddiant yn 2021 a bydd paentiad a gomisiynwyd yn arbennig gan Malcolm Murphy yn cael ei arddangos yn yr agoriad. Ariannwyd y paentiad hwn gan Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, a ariennir gan Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro.

 

A picture containing textDescription automatically generated

 

Diolch i'r holl bartneriaid a fu'n helpu i roi bywyd i'r adeilad hanesyddol hwn sy'n bwysig iawn i lawer o bobl leol ac a fydd yn cyfoethogi ac yn cefnogi bywydau a lles rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn ein dinas.