Back
Croesawu’r Gwanwyn gyda Gŵyl Corff Heini / Meddwl Iach i bobl dros 50 oed


 17/3/22

Cynhelir yr ŵyl ar-lein ddiweddaraf gan Wasanaethau Byw'n Annibynnol Cyngor Caerdydd ym mis Ebrill, gan gefnogi pobl hŷn yn ein cymunedau i gadw'n heini, i aros mewn cysylltiad ac i groesawu'r gwanwyn!

 

Gŵyl Gwanwyn Rithwir Corff Heini / Meddwl Iach i bobl dros 50 oed yw'r pumed digwyddiad ar-lein dros y ddwy flynedd ddiwethaf a drefnwyd gan y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, sy'n canolbwyntio ar roi cymorth i aelodau oedrannus ac anabl o'r gymuned, i'w galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl.

 

Ers symud ar-lein yn ystod cyfnodau clo Covid-19, mae'r gwyliau rhithwir wedi bod yn hynod boblogaidd gyda'r rheiny sydd wedi mynd iddynt, gyda'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol hefyd yn rhoi cymorth un-i-un i unigolion sydd angen help i ddefnyddio eu dyfeisiau ac i ddod yn hyderus ar-lein.

 

Cynhelir yr ŵyl o ddydd Llun 4 Ebrill tan ddydd Gwener 8 Ebrill a bydd yn cynnwys

sesiynau ar-lein ar Microsoft Teams yn ogystal â rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn y gymuned.

 

Bydd y sesiynau ar-lein yn cynnwys ymarfer corff dwysedd isel, celf a chrefft, garddio ar-lein, coginio, hel atgofion tra bydd clybiau cinio a theithiau cerdded yn y gymuned yn cael eu cynnal yn bersonol. Bydd yr ŵyl yn dod i ben gyda diwrnod llawn sesiynau ar-lein gan gynnwys canu ynghyd a raffl ddydd Gwener.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Mae sesiynau a gweithgareddau cymdeithasol ar-lein wedi bod yn achubiaeth wirioneddol i lawer o aelodau hŷn o'n cymunedau dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol wedi gwneud gwaith gwych yn cadw pobl yn actif ac mewn cysylltiad ar adeg pan oedd ynysigrwydd cymdeithasol yn fwy o bryder nag erioed o'r blaen. Gwn fod llawer o ffrindiau newydd wedi'u gwneud o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn.

 

"Mae'r gwyliau rhithwir wedi mynd o nerth i nerth gyda mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan ynddynt. Eleni, rydym yn falch iawn o allu cynnig cymysgedd o ddigwyddiadau ar-lein a chyfarfodydd yn y gymuned - agwedd i'w chroesawu'n fawr ar ŵyl y mis nesaf.

 

"Unwaith eto, gobeithio y bydd pawb yn mwynhau. Rwy'n annog unrhyw un nad yw wedi mynychu o'r blaen i wneud felly, i wneud y gorau o rai sesiynau rhagorol, i ddod i wybod mwy am wasanaethau yn y gymuned ac i wneud ffrindiau newydd."

 

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau ac i ofyn am wahoddiadau i'r sesiynau ar-lein, e-bostiwch: CydlynyddCymunedol@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920 234234.