Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 22 Mawrth 2022

Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: ffyrdd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 27 Mawrth; grŵp rhandiroedd Caerdydd yn elwa o arian annisgwyl elusennol; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.

 

Ffyrdd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 27 Mawrth

Bydd Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth. Disgwylir i 15,000 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad, felly disgwylir i Gaerdydd fod yn brysur iawn.

Bydd ffyrdd ar gau yn y Ganolfan Ddinesig o 23 Mawrth er mwyn gosod a chlirio pentref y digwyddiad.

 

O 5am ddydd Mercher 23 Mawrth tan hanner dydd ar 29 Mawrth bydd

Heol y Coleg ar gau o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Rhodfa'r Brenin Edward VII (gellir cael mynediad tan 6am ddydd Sadwrn 26 Mawrth)

 

O 5am ddydd Iau 24 Mawrth tan ganol dydd ar 29 Mawrth bydd

Rhodfa'r Brenin Edward VII ar gau i'r gyffordd â Boulevard de Nantes ac i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas. Caniateir mynediad i fusnesau a gwasanaethau brys o ddydd Mercher 23 Mawrth tan ddydd Gwener 25 Mawrth ac ar ddydd Llun 28 Mawrth ond ni chaniateir mynediad ddydd Sadwrn 26 Mawrth a Dydd Sul 27 Mawrth

 

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5am ddydd Gwener 25 Mawrth tan ganol nos ar 27 Mawrth:

  • Rhodfa'r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o'r gyffordd â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)
  • Rhodfa'r Amgueddfa o'r pen caeedig â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Gerddi'r Orsedd
  • Heol Gerddi'r Orsedd
  • Heol Neuadd y Ddinas o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Heol y Gogledd.

 

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4am a hanner dydd ddydd Sul 27 Mawrth:

  • Heol y Gogledd i'r de o'r gyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â'r A416
  • Yr A4161 o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Ffordd y Brenin,
  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â'r A4161 i'r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol y Dug a Stryd y Castell
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan.

 

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 6am a 10.45am ddydd Sul 27 Mawrth:

  • Heol y Gogledd o'r gyffordd â Heol Colum i'r gyffordd â Boulevard de Nantes (mynediad i'r Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett, tua'r gogledd i fyny Heol y Gogledd).

 

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am a 3.10pm:

  • Heol Colum
  • Plas y Parc o'r gyffordd â Plas Sant Andreas i'r gyffordd â Heol Colum.

 

Bydd y trefniadau mynediad canlynol ar waith ddydd Sadwrn 26 Mawrth a dydd Sul 27 Mawrth:

  • Ceir mynediad i Beatty Avenue o'r gyffordd â Lake Road North yn unig (gan gynnwys Jellicoe Gardens, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)
  • Bydd mynediad i ac o Sgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli drwy Heol y Gogledd / Heol Corbett.
  • Lady Mary Road o'r gyffordd â Maryport Road at y gyffordd â Lake Road East.

 

Bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn eu tro o 8.30am tan 3.10pm i hwyluso'r llwybr:

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Neville Street
  • Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange
  • Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa'r Harbwr a Roald Dahl Plas
  • Plas Bute, Rhodfa Lloyd George a Stryd Herbert
  • Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Windsor Road
  • Stryd Adam, Fitzalan Place yn mynd ar draws Heol Casnewydd
  • Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany
  • Heol Marlborough, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian
  • Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn - bydd mynediad i fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank hyd nes y bydd Heol y Dderwen Deg yn agor, pan geir mynediad eto drwy'r brif fynedfa.
  • Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa'r Amgueddfa

 

Os caiff y llwybr ei gwblhau'n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.

Bydd y giât fysus ar Heol y Porth yn cael ei hatal am gyfnod y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar 27 Mawrth.

 

Grŵp rhandiroedd Caerdydd yn elwa o arian annisgwyl elusennol

Mae un o gymdeithasau rhandiroedd mwyaf amrywiol ddiwylliannol Caerdydd yn bwriadu gwneud garddio'n hygyrch i'r anabl a dechreuwyr ar ôl sicrhau swm sylweddol o arian annisgwyl elusennol.

Mae Rhandiroedd Pafiliwn Pengam, oddi ar Ffordd Rover ym Mhengam, wedi bod yn safle i arddwyr brwd ers 1927 ac ar hyn o bryd mae tua 70 o aelodau yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch, gan gynnwys ffrwythau, llysiau a blodau.

Maent wedi treulio blynyddoedd yn trin y tir eu hunain, gyda chefnogaeth tîm gwasanaethau rhandiroedd Cyngor Caerdydd, ac yn gwneud defnydd da o'u cronfeydd cyfyngedig drwy ailgylchu deunyddiau i wneud siediau a thwneli.

Erbyn hyn, fodd bynnag, maent wedi derbyn rhodd fawr gan y cwmni cyflenwadau adeiladu Travis Perkins ar ffurf cynalydion rheilffordd a deunyddiau eraill i helpu i ddatblygu cornel wedi'i hadfer o'u safle a chreu lleiniau newydd sy'n addas ar gyfer garddwyr newydd ac anabl.

Dywedodd llywydd cymdeithas rhandiroedd Pengam, Dennis Ramsey, fod y rhodd - gan Gronfa Etifeddiaeth Travis Perkins - wedi dod ar ôl iddo ef a'i aelodau weithio'n galed i glirio ardal hanner erw a oedd wedi'i gordyfu â mieri a choed.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28784.html

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (11 Mawrth - 17 Mawrth 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

 

Mae'r data'n gywir ar:

21 Mawrth 2022

 

Achosion: 1,544

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 420.8 (Cymru: 403.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,942

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,074.4

Cyfran bositif: 39.2 (Cymru: 37.1% cyfran bositif)