Back
Ffliw adar yn lladd 30 o adar yn Llyn Parc y Rhath

Mae ffliw adar wedi lladd dros 30 o adar yn Llyn Parc y Rhath ers iddo gael ei adnabod gyntaf. Er bod y feirws yn peri risg isel i bobl, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Caerdydd yn parhau i gynghori'r cyhoedd i beidio â bwydo'r adar â llaw ac maen nhw'n dweud ei bod yn "parhau'n hanfodol" i beidio â chyffwrdd ag adar sâl neu farw.

Cadarnhawyd presenoldeb y feirws H5N1 ym mhoblogaeth adar y llyn yn dilyn profion ar gorff gŵydd wyllt, a roddwyd i wardeiniaid y parc ar 24 Chwefror.

Nid yw ffliw adar yn anarferol ac mae'n fwyaf cyffredin yn ystod y gaeaf pan all adar sy'n mudo gyrraedd y DU ei throsglwyddo. Mae'n ymledu o aderyn i aderyn drwy gyswllt uniongyrchol neu drwy hylifau'r corff ac ysgarthion halogedig. Gellir ei ledaenu hefyd drwy borthiant a dŵr halogedig, neu gan gerbydau, dillad ac esgidiau brwnt.

Mae achosion o ffliw adar mewn adar gwyllt hefyd wedi'u cadarnhau'n ddiweddar mewn lleoliadau eraill yn ne Cymru gan gynnwys Llyn y Knap yn y Barri.

Os byddwch yn dod o hyd i adar dŵr gwyllt  (elyrch, gwyddau neu hwyaid) wedi marw neu adar gwyllt eraill wedi marw, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech roi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 03459 33 55 77. Dylid hefyd roi gwybod am unrhyw adar sy'n amlwg yn sâl drwy'r rhif hwn.

 

Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch Ffliw Adar

Mae risg ffliw adar i'r cyhoedd yn isel iawn. Ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth y gall y math a ganfyddir yn y DU ledaenu o berson i berson, ond gwyddom fod firysau'n esblygu drwy'r amser a dyna pam mae gennym systemau cadarn ar waith i ganfod y rhain yn gynnar a gweithredu a pharhau i fonitro'r sefyllfa'n agos.

Mae'n dal yn hanfodol nad yw pobl yn cyffwrdd ag adar sâl neu farw, a'u bod yn dilyn cyngor DEFRA o ran rhoi gwybod am achosion.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dilyn fyny ar bob unigolyn sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achos (digwyddiad) o ffliw adar sydd wedi'i gadarnhau. I'r rhai sydd â'r risg uchaf, rydym yn cysylltu â nhw bob dydd i weld a ydynt wedi datblygu symptomau fel y gallwn roi camau priodol ar waith.

Mae pobl hefyd yn cael cynnig triniaeth gwrthfeirysol ar ôl dod i gysylltiad ag adar heintiedig. Diben hyn yw atal y feirws rhag atgynhyrchu yn eu corff os ydynt wedi'i godi a dylai eu hatal rhag mynd yn sâl. Mae hefyd yn helpu i leihau'r risg o drosglwyddo'r haint i eraill.

Mae ffliw adar yn fath o ffliw sy'n ymledu ymhlith adar. Yn ddiweddar, bu nifer fawr o achosion a digwyddiadau ffliw adar math H5N1 mewn adar ledled y DU, ac mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion i berchnogion adar.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma i berchnogion adar:https://llyw.cymru/ffliw-adar-y-diweddaraf