Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 25 Mawrth 2022

Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: ymgynghoriad cyhoeddus - Trefniadau cloi  Parc y Rhath, Gerddi Pleser y Rhath a Pharc Cefn Onn; croesawu'r Gwanwyn gyda Gŵyl Corff Heini / Meddwl Iach i bobl dros 50 oed; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.

 

Ymgynghoriad cyhoeddus - Trefniadau cloi  Parc y Rhath, Gerddi Pleser y Rhath a Pharc Cefn Onn

Mae ymgynghoriad sy'n gwahodd trigolion i ddweud eu dweud am drefniadau cloi mewn tri pharc yng Nghaerdydd bellach ar waith.

Mae Adran Parciau Cyngor Caerdydd yn cynnal asesiad ar hyn o bryd o Barc y Rhath, Gerddi Pleser y Rhath a Pharc Cefn Onn ac wedi lansio Ymgynghoriad ar Drefniadau Cloi Parciau i bobl ddweud eu dweud.

Cyn y pandemig, byddai'r parciau hyn yn cael eu datgloi bob bore o 7.30am a byddai cloi yn dechrau 30 munud cyn machlud haul.  Yn y gaeaf, arweiniodd hyn at gau'r parc o 3.30pm. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Yn ystod y pandemig, ataliwyd cloi'r parciau er mwyn caniatáu mynediad dros gyfnod hwy o amser, gan helpu i gefnogi lles corfforol a meddyliol.

Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, rydym yn awyddus i glywed gennych a ddylai'r parciau aros heb eu cloi neu a ddylid ailddechrau trefniadau cloi.

Bydd yr arolwg byr hwn yn helpu i nodi pa amser o'r dydd neu'r nos rydych chi'n defnyddio'r parciau a'r gerddi, ac at ba ddiben, megis mynd â chi am dro, ymarfer corff, fel rhan o grŵp cymunedol neu at ddibenion iechyd a lles.

"Bydd hyn yn helpu'r tîm i nodi unrhyw drefniadau cloi parciau yn y dyfodol a sicrhau y gall pawb barhau i fwynhau'r parciau'n ddiogel."

Gellir dod o hyd i'r arolwg Trefniadau Cloi Parciau ar-lein yn  www.caerdyddawyragored.com/trefniadau-cloi-parciau/. Mae copïau papur o'r arolwg ar gael ar gais trwy ffonio 02920 130 061.

Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Llun 18 Ebrill. 

 

Croesawu'r Gwanwyn gyda Gŵyl Corff Heini / Meddwl Iach i bobl dros 50 oed

Cynhelir yr ŵyl ar-lein ddiweddaraf gan Wasanaethau Byw'n Annibynnol Cyngor Caerdydd ym mis Ebrill, gan gefnogi pobl hŷn yn ein cymunedau i gadw'n heini, i aros mewn cysylltiad ac i groesawu'r gwanwyn!

Gŵyl Gwanwyn Rithwir Corff Heini / Meddwl Iach i bobl dros 50 oed yw'r pumed digwyddiad ar-lein dros y ddwy flynedd ddiwethaf a drefnwyd gan y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, sy'n canolbwyntio ar roi cymorth i aelodau oedrannus ac anabl o'r gymuned, i'w galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl.

Ers symud ar-lein yn ystod cyfnodau clo Covid-19, mae'r gwyliau rhithwir wedi bod yn hynod boblogaidd gyda'r rheiny sydd wedi mynd iddynt, gyda'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol hefyd yn rhoi cymorth un-i-un i unigolion sydd angen help i ddefnyddio eu dyfeisiau ac i ddod yn hyderus ar-lein.

Cynhelir yr ŵyl o ddydd Llun 4 Ebrill tan ddydd Gwener 8 Ebrill a bydd yn cynnwyssesiynau ar-lein ar Microsoft Teams yn ogystal â rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn y gymuned.

Bydd y sesiynau ar-lein yn cynnwys ymarfer corff dwysedd isel, celf a chrefft, garddio ar-lein, coginio, hel atgofion tra bydd clybiau cinio a theithiau cerdded yn y gymuned yn cael eu cynnal yn bersonol. Bydd yr ŵyl yn dod i ben gyda diwrnod llawn sesiynau ar-lein gan gynnwys canu ynghyd a raffl ddydd Gwener.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau ac i ofyn am wahoddiadau i'r sesiynau ar-lein, e-bostiwch:  CydlynyddCymunedol@caerdydd.gov.uk  neu ffoniwch 02920 234234.

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (14 Mawrth 2022 - 20 Mawrth 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

Mae'r data'n gywir ar:

24 Mawrth 2022

Achosion: 1,659

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 452.2 (Cymru: 429.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,091

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,115.0

Cyfran bositif: 40.6 (Cymru: 38.1% cyfran bositif)

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (18 Mawrth - 24 Mawrth 2022)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 956

  • Disgyblion a myfyrwyr = 758
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 198

 

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 56,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.

 

Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.