Back
Diwrnod Agored y Gwanwyn Parc Bute
11.4.22

Mae Diwrnod Agored Gwanwyn Parc Bute yn dychwelyd dros benwythnos y Pasg gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute, y Blanhigfa a’r Siop Blanhigion.

Yn y digwyddiad deuddydd, sy'n cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm Ddydd Sadwrn 16 a Dydd Sul 17 Ebrill, bydd Cardiff Plant Fairs a thyfwyr lleol yn gwerthu amrywiaeth o blanhigion prin ac anarferol.

Bydd amrywiaeth eang o sgyrsiau, teithiau ac arddangosiadau gan aelodau o dîm Parc Bute, a'u gwesteion arbennig hefyd yn cael eu cynnal – gan gynnwys trafodaeth banel ar batrwm "Gardener’s Question Time".

Bydd digwyddiadau galw heibio i blant hefyd ar gael gydol y dydd, gan ei wneud yn ddiwrnod allan perffaith i'r Pasg.

Mae'r holl weithgareddau, sgyrsiau ac arddangosiadau yn rhad ac am ddim, ond mae gofyn cael tocynnau ar gyfer rhai.  Am fanylion llawn ac amserlen ddigwyddiadau, ewch i: https://bute-park.com/cy/major_event/diwrnod-agored/