Back
Cynllun peilot 20mya Llywodraeth Cymru yn cael ei roi ar waith heddiw mewn pedair ward yng Nghaerdydd

29/04/22


Mae pedair ward yng Nghaerdydd wedi'u dewis i fod yn rhan o dreial gan Lywodraeth Cymru i leihau'r terfyn cyflymder cenedlaethol o 30mya i 20mya mewn ardaloedd preswyl.

Mae Ystum Taf, yr Eglwys Newydd a Thongwynlais, Rhiwbeina a'r Mynydd Bychan i gyd wedi cael eu dewis i fod yn rhan o gynllun Cam 1 20mya Llywodraeth Cymru.

Bydd hyn yn golygu y bydd holl strydoedd preswyl y wardiau hyn yn cael eu cyfyngu i 20mya pan gaiff y cynllun ei weithredu, ond bydd y terfyn cyflymder ar Ffordd y Faenor a Rhodfa'r Gorllewin yn parhau yn 30mya. Disgwylir i'r cynllun gael ei weithredu'n llawn erbyn 14 Mai.

Mae holl drigolion a busnesau'r ardaloedd hyn wedi derbyn taflen wybodaeth am y cynllun, gan fod Caerdydd yn un o wyth ardal yng Nghymru sy'n helpu Llywodraeth Cymru i asesu'r ffordd orau o symud i derfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl. Mae hwn yn newid cenedlaethol a fydd yn digwydd ledled Cymru yn 2023.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Fel cyngor, rydym wedi bod yn gosod ardaloedd 20mya ledled y ddinas, i'r de o'r A48, ers nifer o flynyddoedd bellach.

"Mae arafu cyflymder cerbydau mewn ardaloedd preswyl yn gam cadarnhaol ymlaen i'n cymunedau lleol ac fe'i cefnogir gan y rhan fwyaf o drigolion. Mae ymchwil yn dangos yn glir bod lleihau cyflymder cerbydau mewn ardaloedd preswyl yn lleihau nifer a difrifoldeb gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, yn rhoi gwell cyfleoedd i drigolion gerdded a beicio, yn gwneud ein strydoedd yn iachach ac yn gwella'r amgylchedd i bawb."

Mae'r wardiau sydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r cynllun peilot wedi'u dewis oherwydd bod ganddynt amrywiaeth o wahanol fathau o ffyrdd, gan gynnwys strydoedd preswyl, ffyrdd cysylltu o fewn cymunedau, llwybrau prifwythiennol rhanbarthol a rhai â nodweddion preswyl.

Mae arwyddion terfyn cyflymder newydd wedi cael eu gosod a bydd y cynllun yn cael ei fonitro i helpu Llywodraeth Cymru i benderfynu ar y ffyrdd gorau o leihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ledled y wlad, yn enwedig mewn ardaloedd preswyl ac o'u hamgylch. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael yma:www.cadwcaerdyddisymud.co.uk/project/20mph/

Cefnogir y cynllun peilot hwn gan ymgyrch hysbysebu awyr agored, ond gan fod hwn yn dreial ar gyfer terfyn 20mya diofyn yng Nghymru, penderfynwyd peidio â phaentio rowndeli ar y lôn gerbydau, ond mae arwyddion ar waith i roi gwybod i fodurwyr am y terfyn cyflymder. Gellir gweld cwestiynau cyffredin am y cynllun 20pmh Diofyn, gydag atebion gan Lywodraeth Cymru, yma:Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU

Pan fydd y terfyn cyflymder ledled Cymru yn newid yn 2023, bydd yr holl arwyddion a marciau ffordd 20mya yn cael eu tynnu. Caiff arwyddion newydd eu gosod yn eu lle yn y rhannau o'r rhwydwaith ffyrdd a fydd yn aros ar 30mya. Os oes goleuadau stryd ar ffordd, heb arwyddion terfyn cyflymder, dylai gyrwyr dybio mai 20mya yw'r terfyn cyflymder. Bydd rhai ffyrdd yn aros ar 30mya ac maent wedi'u nodi gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys proses 'eithriadau' arbennig a gwybodaeth leol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydaGanBwyllsy'n gorfodi terfynau cyflymder yng Nghymru i sicrhau bod y terfynau cyflymder newydd yn cael eu parchu a bod gyrwyr yn cael eu cefnogi i newid eu hymddygiad.