Back
Y ddinas yn tywynnu’n borffor i nodi Pythefnos Gofal Maeth

11.05.22
Bydd dau o adeiladau mwyaf eiconig Caerdydd yn llawn lliw’r mis hwn i ddathlu rôl y ddinas yn ystod Pythefnos Gofal Maeth.

Bydd waliau’r  Castell a ffasâd dramatig Neuadd y Ddinas yn tywynnu’n borffor - lliw'r gwasanaeth yng Nghaerdydd – yn y nos yn ystod y pythefnos, o ddydd Llun, Mai 9 i ddydd Sul, Mai 22.

Mae'r ymgyrch, a sefydlwyd ym 1997, yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith a wneir gan ofalwyr maeth a gweithwyr maethu proffesiynol i helpu i ddod o hyd i gartrefi cariadus i bobl ifanc pan fydd ei angen fwyaf arnynt.  Eleni, y thema yw 'cymunedau maethu'.

Bydd y Rhwydwaith Maethu, sy'n trefnu'r pythefnos, yn defnyddio'r digwyddiad i amlygu’r ffyrdd niferus y mae pobl ar draws y gymuned faethu yn cefnogi ei gilydd.

Yng Nghaerdydd, mae tîm y cyngor o weithwyr cymdeithasol sy'n arbenigo mewn gofal maeth wedi trefnu dau ddigwyddiad galw heibio: y cyntaf yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd ddydd Mawrth, Mai 17 rhwng 10.30am a 2pm, ac yn siop Tesco Extra yn Excelsior Road ar ddydd Mercher, Mai 18, rhwng 1pm a 4pm. Bydd hyn yn hyrwyddo eu gwaith ac yn annog pobl leol i ymuno â'r miloedd o deuluoedd maeth newydd sydd eu hangen bob blwyddyn i ofalu am blant.

Bydd yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu siarad â'r tîm am sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd plentyn.  "P'un a ydych chi'n awyddus i gymryd rhan mewn maethu, neu os ydych chi eisoes yn ofalwr maeth ac os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo i'r cyngor, neu os mai dim ond rhywfaint o wybodaeth sydd ei angen arnoch, rydym yn barod i siarad â chi," dywedodd llefarydd ar ran y cyngor.

"Yr angen mwyaf yw am ofalwyr maeth sy'n gallu cefnogi plant hŷn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant sydd ag anableddau a phlant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.

"A phan fydd pobl yn penderfynu ymuno â Maethu Cymru Caerdydd, gallant fod yn hyderus y bydd ganddynt fynediad at rwydweithiau cymorth o'r radd flaenaf, cyfleoedd a hyfforddiant amrywiol a phecyn gwobrwyo hael iawn.  Er enghraifft, mae ein cynnig gwell yn golygu bod yr isafswm y gallai gofalwr ei gael yn maethu un plentyn yn cyfateb i gyflog o £25,000."

Er y gall maethu olygu gofalu am blentyn yn y tymor hir, mae llawer o deuluoedd maeth yn helpu gyda seibiannau byr ac yn cynnig gofal seibiant.  Ac mae gofalwyr maeth yng Nghaerdydd mor amrywiol â'r ddinas ei hun – yn briod, yn byw gyda phartner, sengl, o'r gymuned LHDT+, yn anabl ac o lawer o gefndiroedd crefyddol ac ethnig gwahanol.

Mae Maethu Cymru Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o fuddion a manteision hael i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi, yn ariannol, yn broffesiynol ac yn emosiynol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ewch i: Maethu Yng Nghaerdydd | Maethu Cymru Caerdydd (llyw.cymru) neu ffoniwch 029 2087 3797.