Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 13 Mai 2022

Y diweddaraf gennym ni: y ddinas yn tywynnu'n borffor i nodi Pythefnos Gofal Maeth; y profiad celf ymgolli y mae pawb yn siarad amdano; diwrnod o hwyl yn y Bae; a'r coronafeirws mewn rhifau.

 

Y ddinas yn tywynnu'n borffor i nodi Pythefnos Gofal Maeth

Bydd dau o adeiladau mwyaf eiconig Caerdydd yn llawn lliw'r mis hwn i ddathlu rôl y ddinas yn ystod Pythefnos Gofal Maeth.

Bydd waliau'r  Castell a ffasâd dramatig Neuadd y Ddinas yn tywynnu'n borffor - lliw'r gwasanaeth yng Nghaerdydd - yn y nos yn ystod y pythefnos, o ddydd Llun, Mai 9 i ddydd Sul, Mai 22.

Mae'r ymgyrch, a sefydlwyd ym 1997, yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith a wneir gan ofalwyr maeth a gweithwyr maethu proffesiynol i helpu i ddod o hyd i gartrefi cariadus i bobl ifanc pan fydd ei angen fwyaf arnynt.  Eleni, y thema yw 'cymunedau maethu'.

Bydd y Rhwydwaith Maethu, sy'n trefnu'r pythefnos, yn defnyddio'r digwyddiad i amlygu'r ffyrdd niferus y mae pobl ar draws y gymuned faethu yn cefnogi ei gilydd.

Yng Nghaerdydd, mae tîm y cyngor o weithwyr cymdeithasol sy'n arbenigo mewn gofal maeth wedi trefnu dau ddigwyddiad galw heibio: y cyntaf yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd ddydd Mawrth, Mai 17 rhwng 10.30am a 2pm, ac yn siop Tesco Extra yn Excelsior Road ar ddydd Mercher, Mai 18, rhwng 1pm a 4pm. Bydd hyn yn hyrwyddo eu gwaith ac yn annog pobl leol i ymuno â'r miloedd o deuluoedd maeth newydd sydd eu hangen bob blwyddyn i ofalu am blant.

Bydd yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu siarad â'r tîm am sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd plentyn.  "P'un a ydych chi'n awyddus i gymryd rhan mewn maethu, neu os ydych chi eisoes yn ofalwr maeth ac os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo i'r cyngor, neu os mai dim ond rhywfaint o wybodaeth sydd ei angen arnoch, rydym yn barod i siarad â chi," dywedodd llefarydd ar ran y cyngor.

"Yr angen mwyaf yw am ofalwyr maeth sy'n gallu cefnogi plant hŷn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant sydd ag anableddau a phlant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.

"A phan fydd pobl yn penderfynu ymuno â Maethu Cymru Caerdydd, gallant fod yn hyderus y bydd ganddynt fynediad at rwydweithiau cymorth o'r radd flaenaf, cyfleoedd a hyfforddiant amrywiol a phecyn gwobrwyo hael iawn.  Er enghraifft, mae ein cynnig gwell yn golygu bod yr isafswm y gallai gofalwr ei gael yn maethu un plentyn yn cyfateb i gyflog o £25,000."

Er y gall maethu olygu gofalu am blentyn yn y tymor hir, mae llawer o deuluoedd maeth yn helpu gyda seibiannau byr ac yn cynnig gofal seibiant.  Ac mae gofalwyr maeth yng Nghaerdydd mor amrywiol â'r ddinas ei hun - yn briod, yn byw gyda phartner, sengl, o'r gymuned LHDT+, yn anabl ac o lawer o gefndiroedd crefyddol ac ethnig gwahanol.

Mae Maethu Cymru Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o fuddion a manteision hael i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi, yn ariannol, yn broffesiynol ac yn emosiynol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ewch i: Maethu Yng Nghaerdydd | Maethu Cymru Caerdydd (llyw.cymru) neu ffoniwch 029 2087 3797.

 

Dreamachine - y profiad celf ymgolli y mae pawb yn siarad amdano - y nagor yng Nghaerdydd

Mae Dreamachine, profiad ymgolli newydd pwerus sy'n archwilio potensial diddiwedd y meddwl dynol, yn agor heddiw yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd lle bydd yn rhedeg tan 18 Mehefin.

Wedi'i greu gan Collective Act, mae'n dwyn ynghyd enillwyr y Wobr Turner, artistiaid Assemble, y cyfansoddwr Jon Hopkins sydd wedi derbyn enwebiadau gan Grammy a Mercury, a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw. Mae Dreamachine wedi ei gomisiynu a'i gyflwyno fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Bydd Dreamachine yn tywys ei gynulleidfaoedd ar daith galeidosgopig, weledol drwy olau crynedig a sain, a'r profiad cyfan yn digwydd drwy lygaid cau. Bydd cynulleidfaoedd yn cymryd eu seddi mewn lle a gynlluniwyd gan Assemble sy'n caniatáu iddyn nhw fwynhau profiad amlsynhwyraidd a rennir sy'n bersonol iawn, ac ar y cyd.

Mae Dreamachine wedi'i ysbrydoli gan ddyfais ryfeddol ond prin y gŵyr amdano ym 1959 gan yr artist-ddyfeisiwr Brion Gysin, ar y chwith. Defnyddiodd ei ddyfais gartref arbrofol olau crynedig i greu rhithwelediadau byw, patrymau caleidosgopig a ffrwydradau o liw ym meddwl y 'gwyliwr'.

Dros drigain mlynedd ar ôl ei ddyfais wreiddiol, mae Collective Act wedi dod â thîm creadigol blaenllaw at ei gilydd i ail-ddychmygu'r Dreamachine yn radical fel math newydd pwerus o brofiad ar y cyd, gan gyflwyno hyn i gynulleidfaoedd ledled y DU am ddim.

Bydd pob profiad o'r Dreamachine yn gwbl unigol. Bydd ymchwil i ymatebion gwahanol y gynulleidfa yn taflu goleuni unigryw ar sut y mae'r ymennydd dynol yn creu ein 'bydysawd mewnol' goddrychol, gan archwilio'r ffyrdd y mae pob un ohonom yn canfod y byd, sut mae hyn yn siapio ein bywydau a phwy ydym ni. Hyd yn oed gydag offer niwrowyddoniaeth fodern, mae'r cwestiwn pam yn union y mae profiadau byw o'r fath yn digwydd yn dal heb ei ateb.

Er bod profiad ymgolli Dreamachine ar gyfer pobl dros 18 oed, datblygwyd rhaglen ysgolion ochr yn ochr â'r sioeau byw gan A New Direction mewn partneriaeth â Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain, UNICEF UK a We The Curious.

Datblygwyd Dreamachine gydag ymchwil grŵp ffocws helaeth i sicrhau ei fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl, gan gynnwys i bobl niwrowahanol, pobl ddall a rhannol ddall, a phobl B/byddar yn ogystal â defnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai sy'n defnyddio cymhorthion symudedd. Mae profiadau hamddenol ar gael i unrhyw un a fyddai'n elwa ar sefyllfa fwy anffurfiol, a chynigir sesiynau dehongli BSL hefyd.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29024.html

 

Diwrnod o Hwyl yn y Bae, ac nid i'r adar yn unig!

Bydd pethau'n gyffrous ym Mae Caerdydd yfory wrth i ddathliad ar y cyd nodi dwy garreg filltir - un yn yr awyr a'r llall ar y tonfeddi.

Rhwng 10am a 4pm, mae'r ddinas yn nodi Croeso'n i'r Gwenoliaid Du, rhan o Ddiwrnod Adar Mudol y Byd, i ddathlu dychwelyd y wennol ddu i'r ardal.

Mae hefyd yn Ddiwrnod Marconi - 125 o flynyddoedd ers i'r dyfeisiwr o'r Eidal anfon y neges ddi-wifr gyntaf dros y môr agored, rhwng Trwyn Larnog, ger Penarth, ac ynys Echni.

Bydd llwyth o weithgareddau i'w mwynhau ar y diwrnod, o deithiau tywys a chwisiau adar i gelf, crefftau a gêmau. Bydd Cymdeithas Radio Amatur y Barri hefyd wrth law i'ch helpu i anfon negeseuon ledled y byd.

Gallwch hefyd weld rhai o arteffactau'r ynys a mynd ar ymweliad rhithwir ag Ynys Echni heb adael y Morglawdd.

Felly hedfanwch lawr i Fae Caerdydd am ddiwrnod o hwyl am ddim. Am fwy o fanylion, cliciwch ar Croeso Caerdydd, prifddinas Cymru • Gwybodaeth swyddogol am Gaerdydd i dwristiaid

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (02 Mai - 08 Mai 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

 

Mae'r data'n gywir ar:

12 Mai 2022

 

Achosion: 83

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 22.6 (Cymru: 22.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 918

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 250.2

Cyfran bositif: 9.0 (Cymru: 8.9% cyfran bositif)