Back
Grŵp theatr yn rhoi bywyd newydd i gymeriadau hanesyddol Caerdydd

20.05.22
Bydd aelodau grŵp theatr o Gaerdydd yn sianelu ysbrydion rhai o drigolion mwyaf diddorol y ddinas fis nesaf mewn cyfres o berfformiadau arbennig ym Mynwent Cathays.

Mae 'Lleisiau o’r Tu Hwnt i’r Bedd' sy’n cael ei gyflwyno gan Gwmni Theatr yr A48, mewn cydweithrediad ag adran Gwasanaethau Profedigaeth Cyngor Caerdydd, wedi bod yn ddigwyddiad poblogaidd ar galendr y fynwent ers amser maith ac mae'n denu cynulleidfa lawn yn rheolaidd.

Mae'r perfformiadau eleni ddydd Mawrth 7 Mehefin a dydd Iau 9 Mehefin am 7pm, a'r dydd Sul canlynol, 12 Mehefin, am 2pm. Bydd pob un yn cael ei arwain gan gyn-reolwr coffa'r Cyngor, Roger Swan, a fydd yn tywys cynulleidfaoedd drwy lwybr treftadaeth o feddau, gan stopio mewn nifer ohonynt i glywed actorion mewn gwisgoedd o’r cyfnod yn adrodd hanes rhai o'r meddianwyr mwyaf adnabyddus.

Mae'r straeon i gyd wedi'u hysgrifennu gan grŵp ysgrifennu A48, Living Lines, ac yn portreadu gorffennol cyfoethog ac amrywiol Caerdydd, gan dalu teyrnged i'r rhai a oedd yn rhan ohono.

Yn eu plith mae Annie Mullin, ymgyrchydd dros roi’r bleidlais i fenywod a chynghorydd Rhyddfrydol dros y Rhath ar droad y ganrif ddiwethaf. Ysgrifennwyd ei stori gan Gwyneth Williams a ddywedodd iddi gael ei hysbrydoli gan ei hargyhoeddiad i roi 'menywod o flaen plaid' a'i phresenoldeb ar gyfres o orymdeithiau yn Llundain a ddaeth â'r bleidlais i fenywod yn y pen draw.

"Bu farw ym 1921," meddai Gwyneth, "ond roedd hi'n byw yn ddigon hir i allu pleidleisio ei hun ym 1918."

Un o nodweddion newydd y digwyddiad eleni fydd arddangosfa o waith celf a grëwyd gan 'Cardiff Arty Party' mewn ymateb i berfformiadau blaenorol A48. "Gellir ei mwynhau dros baned o de yn y capel ar ddiwedd pob taith gerdded," meddai Kathy Thomas, o Living Lines, "ond mae tocynnau yn gwerthu'n gyflym.

"Mae'r perfformiadau awyr agored unigryw hyn bob amser wedi cael cefnogaeth dda," ychwanegodd, "ond mae gennym nifer cyfyngedig o docynnau ar gael o hyd. Os ydych am ddod, maent yn £7 yr un a gellir eu prynu drwy fynd i www.a48theatrecompany.com"