Back
Marchnad dan do Caerdydd yn ailagor gyda’r nos am y tro cyntaf ers y pandemig

23.05.22
Bydd marchnad dan do hanesyddol Caerdydd yn ailagor gyda’r nos yr wythnos yma am y tro cyntaf ers 2019 wrth i'r ddinas barhau i ddychwelyd i normalrwydd ar ôl pandemig Covid-19.

Disgwylir i'r rhan fwyaf o'r stondinwyr gymryd rhan Ddydd Iau nesaf, 26 Mai, rhwng 6pm a 9pm a bydd dathlu yn yr awyr, gyda cherddoriaeth gan Daniel 'Dabs' Bonner o Gaerdydd, prif ganwr y New Town Kings, un o fandiau reggae/ska mwyaf blaenllaw'r gwledydd hyn.

Bydd y noson hefyd yn cynnwys yr artist lleol Marcus Smith a fu'n rhan o brosiect celf stryd Caerdydd PWSH y llynedd.

Teimlai Louise Thomas, rheolwr y farchnad, ei bod yn noson bwysig i'r gyrchfan siopa. "Rydym yn adfer y digwyddiadau nos a oedd yn boblogaidd iawn pan gawsom ni nhw yn haf 2019," meddai. "Doedden ni ddim yn teimlo ein bod ni'n gallu eu cynnal o gwbl yn ystod y pandemig ond rydyn ni i gyd yn teimlo'n fwy cyfforddus nawr ac am eu cynnal unwaith y mis yn ystod yr haf.

"Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o'r stondinwyr yn aros ar agor ar gyfer y digwyddiad," ychwanegodd.  "Mae'n debyg y byddwn ni'n cau'r drysau tua 5.30pm Ddydd Iau i roi cyfle iddyn nhw gymryd eu gwynt a rhywbeth i'w fwyta cyn i ni eu hail-agor eto am chwech.

"Gyda'r stondinau bwyd, y manwerthwyr pethau difyr, y gerddoriaeth a'r gwaith celf, dylai fod yn dipyn o noson."

Mae'r farchnad yn un o adeiladau nodedig mwyaf eiconig Caerdydd.  Wedi ei rhestru fel adeilad Gradd II, fe'i hagorwyd ym mis Mai 1891 ac mae wedi'i lleoli ar safle'r hyn a oedd yn hen farchnad ffermwyr a hefyd hen garchar Caerdydd, lle cafodd y merthyr Dic Penderyn o Ferthyr ei grogi ym 1831.

Mae'r digwyddiad marchnad dan do yn cyd-fynd â lansiad marchnad nos arall fis diwethaf, ar lannau Afon Taf ar Arglawdd Fitzhamon Ddydd Mercher olaf pob mis, rhwng 5pm a 9pm.