Back
Parc Sglefrio newydd wedi'i gynnig ar gyfer Llanrhymni

Mae parc sglefrio 'cyrchfan' newydd yn cael ei gynnig ar gyfer Llanrhymni lle byddai parc sglefrio concrid modern yn disodli'r parc sglefrio ffrâm bren presennol ger Canolfan Hamdden y Dwyrain.

Mae ymgynghoriad ar-lein ar agor ar hyn o bryd, yn gofyn i'r gymuned sglefrfyrddio leol ac ehangach am eu mewnbwn i ddyluniad y parc sglefrio, sy'n cael ei ddatblygu gan ymgynghorwyr arobryn VDZ+A a Newline Skateparks.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'r cynigion ar gam cynnar a byddant yn destun ymgynghoriad pellach a chais cynllunio yn ddiweddarach eleni, ond y nod yw dylunio gofod cynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer trigolion a sglefrwyr o bob oed a gallu.

"Rydym am annog cynifer o bobl â phosibl i fod yn gorfforol actif ac mae Sglefrfyrddio ynGamp Olympaidd sy'n apelio at bobl o bob oed, o blant ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau i sglefrwyr hŷn, y mae llawer ohonynt bellach yn cyflwyno eu plant i'r gamp.

"Mae parc sglefrio concrid yn golygu llai o waith cynnal a chadw ac yn creu llai o sŵn, ac fel rhan o'n strategaeth sglefrio ledled y ddinas sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio gwella neu adnewyddu mwy o safleoedd presennol yn ogystal â nodi lleoliadau newydd, gan gynnig mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau manteision gweithgarwch corfforol, gan ddechrau yn Llanrhymni."

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein, ewch i: tinyurl.com/llanrumneysk8

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 1 Mehefin.