Back
Parc Maendy (Gelligaer Street) yn ailagor ar ôl cynnal gwelliannau mawr

Mae trigolion Cathays yng Nghaerdydd wedi gallu mwynhau eu parc lleol ar ei newydd wedd y penwythnos hwn wrth i Barc Maendy (Gelligaer Street) ailagor i'r cyhoedd ar ôl cynnal gwelliannau mawr.

Mae’r gwaith, a gafodd ei gynllunio ar ôl ymgynghori â thrigolion, yn rhan o raglen barhaus i adnewyddu parciau ac ardaloedd chwarae ledled y ddinas, ac mae'n cynnwys:

  • Gosod ardal chwarae newydd, gan gynnwys offer chwarae newydd ac adnewyddu ac adleoli offer presennol.
  • Ardal chwarae naturiol ar wahân.
  • Llwybrau newydd.
  • Byrddau tennis bwrdd a teqball newydd. Gêm yw teqball sy'n cael ei chwarae ar fwrdd crwm ac sy’n cyfuno elfennau o bêl-droed a thennis bwrdd.
  • Byrddau picnic, rhai â gemau bwrdd yn rhan ohonynt.
  • Seddau newydd a biniau mewn lleoliad newydd.
  • Coed, llwyni a ac ardaloedd glaswelltog newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae creu mannau diogel i chwarae yn rhan bwysig iawn o'n gwaith i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant ond mae hyn wedi bod yn drawsnewidiad a fydd, gobeithio, o fudd i'r gymuned gyfan, gan greu lle y gall pawb ei fwynhau."