Back
Angen i Lywodraeth Cymru ddiogelu cwmnïau bysus y ddinas, yn ôl Cyngor Caerdydd

10/06/22
 
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bysus ledled Cymru yn cael eu hystyried gan Gyngor Caerdydd.

Mae ymgynghoriad Papur Gwyn y llywodraeth, "Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru", yn nodi cynigion sydd â'r nod o dyfu'r rhwydwaith bysus, diwallu anghenion y cyhoedd, sicrhau'r gwerth mwyaf am fuddsoddiad cyhoeddus mewn gwasanaethau bysus, a thorri'r ddibyniaeth ar geir preifat.

Bydd adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn argymell bod y cyngor yn ymateb yn gadarnhaol i'r ymgynghoriad gan dynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder y mae'r cyngor yn teimlo bod angen mynd i'r afael â hwy, gan gynnwys;

  • Rhagor o wybodaeth am gynlluniau ariannu hirdymor;
  • Mwy o eglurder ar gymorth i gwmnïau bysus y ddinas sy'n aml yn gweithredu llwybrau llai poblogaidd ond sy'n cael eu hosgoi gan gwmnïau sector preifat sy'n mynd ar drywydd elw;
  • Ystyried trefniadau trafnidiaeth ysgol nad ydynt yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ar hyn o bryd;
  • Cyflwyno mesurau sy'n sicrhau mai cynghorau lleol sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu sut y caiff llwybrau bysus lleol eu darparu gan gysylltu â chynlluniau ar gyfer safleoedd parcio a theithio a choridorau clyfar.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth,  "Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar wella gwasanaethau bysus ledled Cymru yn cyd-fynd â llawer o'n syniadau ein hunain ynghylch trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus. Y nod yw ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella gwasanaethau bysus, gan ddarparu gwasanaethau gwell, glanach, rhatach a mwy ecogyfeillgar sy'n rhoi cyfle gwirioneddol i bobl dorri eu dibyniaeth ar y car modur.

"Rydym am weld nifer y defnyddwyr bysus yn dyblu yng Nghaerdydd erbyn 2030. Er mwyn gwneud hynny, bydd angen i ni weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i wella trafnidiaeth bysus yn sylweddol ac - mae llawer yn yr ymgynghoriad hwn a allai ein helpu i gyflawni hynny.

"Fodd bynnag, mae yna hefyd nifer mawr o gwestiynau heb eu hateb ynghylch ariannu hirdymor, diogelu cwmnïau bysus y ddinas, cymorth ar gyfer llwybrau nad ydynt yn broffidiol, a sut y bydd awdurdodau lleol, yn ymarferol, yn cael cyfle i reoli dyluniad rhwydweithiau bysus lleol. Mae'r rhain i gyd yn faterion pwysig y mae angen eu datrys.

"Nid yw'r nifer sy'n defnyddio bysus wedi dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig eto ac os ydym am gael pobl i adael eu ceir gartref, bydd llawer o waith i'w wneud i'w hargyhoeddi y bydd bysus yn gyflymach, yn rhatach ac yn well i'r amgylchedd na mynd â'r car. Dyna pam rydym am ddod o hyd i ffordd o gyflwyno pris tocyn bws safonol o £1. Gwnaethom dreialu hyn yn y cyfnod cyn y Nadolig ac roedd yr adborth a gawsom yn gadarnhaol iawn. Gallai fod yn ffactor sy'n trawsnewid y sefyllfa o ran cynyddu'r defnydd o fysus.

"Felly bydd angen i unrhyw strategaeth bysus ar gyfer Cymru gyfan gael ei hystyried a'i hariannu'n ofalus er mwyn iddi lwyddo. Mae arnom angen sicrwydd ynghylch ariannu gwasanaethau bysus a'r seilwaith ategol sydd ei angen i gynyddu nifer y defnyddwyr bysus yn y dyfodol ac mae arnom angen sicrwydd hefyd gan Lywodraeth Cymru y bydd y diwygiadau'n cynnwys mecanwaith methu diogel i ddiogelu buddiannau Cwmni Bysus dinas Caerdydd, Bws Caerdydd. Ar hyn o bryd mae Bws Caerdydd yn darparu gwasanaeth helaeth yn ardal ehangach Caerdydd ond nid yw'r Papur Gwyn yn gwneud unrhyw sylwadau ar sut, neu os, y dylid diogelu cyfran y farchnad yn ardal y cyngor o dan sefyllfa fasnachfraint. Er bod y papur Gwyn yn annog perchnogaeth ddinesig, nid yw'n cyfeirio o gwbl at yr heriau gwirioneddol y gallai cyfraith cystadleuaeth y DU eu creu."

Bydd y Cabinet yn adolygu argymhellion y swyddogion yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 23 Mehefin pan fydd yn ceisio cytuno ar ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Cyngor Caerdydd hefyd yn ystyried y Papur Gwyn yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 16 Mehefin.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru yw 24 Mehefin 2022 a gellir ei weld yma:https://llyw.cymru/un-rhwydwaith-un-amserlen-un-tocyn-cynllunio-bysiau-fel-gwasanaeth-cyhoeddus-i-gymru