Back
Diwrnod Agored yr Haf Fferm y Fforest
Mae chwilota mewn pyllau, chwilio chwilod a gwylio adar ymhlith y llu o weithgareddau natur sydd ar gael yn Fferm y Fforest y penwythnos hwn wrth iddi gynnal ei Diwrnod Agored yr Haf blynyddol i gyflwyno teuluoedd i fywyd gwyllt y warchodfa natur leol 150 erw.

Mae’r digwyddiad am ddim ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin (10am-3pm) wedi'i ganoli o gylch Canolfan Cadwraeth Fferm y Fforest, sy’n gartref i dîm Ceidwaid Cymunedol Caerdydd. Bydd hefyd yn cynnwys sioe gŵn y gall eich ci gystadlu ynddi am ddim, a'r cyfle i roi cynnig ar bysgota a chael awgrymiadau ar gyfer tynnu lluniau bywyd gwyllt.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Mae'r diwrnod agored yn siŵr o fod yn ddiwrnod allan gwych i'r teulu ac yn gyfle gwych i blant a phobl chwilfrydig o bob oed ddysgu mwy am y rhywogaethau amrywiol sy'n byw yn y warchodfa."

I ymuno yn yr hwyl, ewch i Ganolfan Gadwraeth Fferm y Fforest, Forest Farm Road, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7JJ

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Gwasanaeth Ceidwaid ar 029 2044 5903 neu ewch i www.facebook.com/WildAboutCaerdydd

Bydd lluniaeth ar gael.