Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 24 Mehefin 2022

Dyma'r diweddaraf, yn cynnwys: helpu pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i gael eu cyflogi'n llwyddiannus; band eang yng Nghaerdydd yn elwa o hwb; a Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi'n Ddinas Goed y Byd.

 

Helpu pobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i gael eu cyflogi'n llwyddiannus

Mae prosiect sy'n rhoi'r cymorth a'r hyfforddiant angenrheidiol i bobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) er mwyn iddynt allu cael cyflogaeth yn llwyddiannus wedi'i lansio yng Nghaerdydd.

Mewn partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae Prosiect SEARCH yn darparu lleoliadau hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu awtistiaeth, gyda'r nod o'u paratoi a'u cefnogi wrth iddynt bontio o'r ysgol i gyflogaeth amser llawn.

Ers ei gynllun peilot cychwynnol ym mis Medi 2021, mae'r cynllun wedi'i gefnogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd, fel y partner cyflogaeth, wedi darparu ystod o leoliadau profiad gwaith â chymorth mewn sawl adran yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, gan gynnwys fferylliaeth, patholeg celloedd, arlwyo, switsfwrdd, llieiniau, cadw tŷ a phorthorion.

Mae'r trefnwyr bellach yn chwilio am gyflogwyr a sefydliadau eraill i ddod ymlaen a chefnogi lleoliadau gwaith yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:CardiffCommitment@cardiff.gov.uk

Mae disgyblion o Ysgol Uwchradd Woodlands ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ac Ysgol y Deri ym Mro Morgannwg wedi cael gwersi ar sgiliau cyflogadwyedd ac wedi derbyn cymorth gan hyfforddwr cyflogaeth arbenigol Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith Caerdydd i gael mynediad at leoliadau profiad gwaith yn ystod y rhaglen blwyddyn lawn amser.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Mae Prosiect SEARCH wedi llwyddo i sicrhau bod pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu cael mynediad at leoliadau profiad gwaith o ansawdd da ynghyd â darpariaeth i'w cefnogi i ddod o hyd i waith yn y dyfodol.

"Mae'n galonogol clywed bod pob un o'r saith intern yn aros gyda'r bwrdd iechyd ar hyn o bryd, gyda dau yn sicrhau cyflogaeth o ganlyniad uniongyrchol i gymryd rhan yn y prosiect.

"Mae ehangu'r prosiect yn dibynnu ar sefydliadau'n camu i'r adwy. Maent yn amhrisiadwy o ran helpu i gefnogi mwy o bobl ifanc i ddod yn uchelgeisiol, yn alluog ac yn barod i weithio wrth hyrwyddo unigolion hyderus sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o'n cymunedau."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29271.html

 

Argaeledd band eang yng Nghaerdydd yn elwa o hwb o £7.7m

Mae nod Cyngor Caerdydd o alluogi pob safle yn y ddinas i gael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy wedi cael hwb ariannol mawr gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r ddinas wedi bod yn llwyddiannus yn ei chais am fwy na £7.7m dros y tair blynedd nesaf drwy Gronfa Band Eang Lleol y llywodraeth, a sefydlwyd i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol ledled Cymru i fynd i'r afael â phroblemau cysylltedd yn eu cymunedau.

Mae'r hwb ariannol diweddaraf wedi'i dargedu at bedwar prosiect ledled y wlad, ond cynllun 'Caerdydd - y Rhai Olaf' y cyngor sydd wedi derbyn y gyfran fwyaf o'r arian o bell ffordd.

I ddechrau, mae'r cynllun yn targedu 1,219 o eiddo ledled Caerdydd y mae'r cyngor wedi nodi nad ydynt yn gallu cyflawni cyflymderau o 30Mbps, gyda rhai safleoedd yn derbyn cyn lleied â 2Mbps, ac nad ydynt yn rhan o waith cyflwyno masnachol arall sydd ar y gweill. Mae rhai safleoedd wedi'u clystyru, gan wneud y prosiect yn gyflymach i'w gyflawni, tra bod rhai yn safleoedd ynysig sy'n anoddach i'w gwasanaethu. Rhoddwyd blaenoriaeth i eiddo yr ystyrir eu bod yn uchel ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Mae'r gronfa hefyd yn hwb mawr i fusnesau ledled y ddinas wrth iddi geisio dod yn ganolbwynt ar gyfer y diwydiannau creadigol. Disgwylir i'r broses o gyflwyno band eang cyflym lenwi bylchau lle y bu cysylltedd yn wael yn y gorffennol a lle ystyrir bod rhai adeiladau masnachol yn anymarferol i fusnesau uwch-dechnoleg.

Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Rydym wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £7.7m i'n helpu i ddarparu band eang gigabit-alluog i'r safleoedd hyn yn y ddinas.

"Teimlwn ei bod yn hanfodol bod pawb ledled y ddinas, yn enwedig pobl mewn ardaloedd ynysig a difreintiedig sy'n cael eu gwasanaethu mor wael â rhannau anghysbell o Gymru, yn cael yr un cyfleoedd digidol ag y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.  At hynny, gwelodd y pandemig gynnydd dramatig yn y defnydd o wasanaethau ar-lein, o wasanaethau manwerthu a ffrydio cyfryngau i gadw mewn cysylltiad â'n hanwyliaid.

"Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd cysylltedd ffibr o'r radd flaenaf a bydd yr arian hwn yn ein helpu i sicrhau bod cysylltedd sy'n addas i'r dyfodol ar gael."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29285.html

 

Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi'n Ddinas Goed y Byd

Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi'n Ddinas Goed y Byd i gydnabod rhaglen plannu coed Coed Caerdydd Cyngor Caerdydd sydd â'r nod o gynyddu gorchudd canopi coed y ddinas i 25% erbyn 2030.

Nod rhaglen Dinasoedd Coed y Byd, a sefydlwyd gan sefydliad cadwraeth ac addysg di-elw, The Arbor Day Foundation, yw creu mwy o fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol drwy gydnabod dinasoedd sy'n gwneud hyn yn dda.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Mae 20,000 o goed eisoes wedi'u plannu ledled y ddinas yn ystod 6 mis cyntaf ein rhaglen plannu coed uchelgeisiol a, gyda chymorth ein byddin anhygoel o wirfoddolwyr, y bwriad yw plannu llawer mwy dros y blynyddoedd nesaf.

"Wrth i'r coed hynny dyfu byddant yn chwarae rhan bwysig, nid yn unig o ran amsugno allyriadau carbon Caerdydd, ond hefyd yn helpu i lanhau'r aer rydym i gyd yn ei anadlu, gan ddarparu cynefinoedd pwysig ar gyfer natur a gwneud y ddinas yn lle gwyrddach i fyw ynddo."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29269.html