Back
Mae gŵyl olau arobryn Cymru, Nadolig ym Mharc Bute, yn ôl ac mae tocynnau ar werth nawr

Mae'r Nadolig ym Mharc Bute yn ôl a bydd yn fwy disglair nag erioed yn 2022 wrth iddo ddychwelyd am ei ail flwyddyn gyda llu o atyniadau newydd.

Bydd y digwyddiad arobryn yn ceisio efelychu llwyddiant mawr  2021 gyda gosodiadau newydd sbon gan gynnwys 'taith laser hypnotig' gyffrous, 'orb epig symudliw', a 'Chanion Goleuadau' hudolus gyda mil o sêr llesmeiriol. 

Dywedodd Roxy Robinson, Cyfarwyddwr Creadigol From The Fields sy'n cynhyrchu'r llwybr: "Ar ôl blwyddyn gyntaf mor syfrdanol, mae'n bleser aruthrol dod â'r Nadolig ym Mharc Bute yn ôl i Gaerdydd unwaith eto, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddangos i bawb beth sydd ar y gweill ar gyfer 2022."

"Rydyn ni'n adeiladu ar ein gwaith gyda busnesau a chymunedau lleol i greu profiad hudolus o'r dechrau i'r diwedd. Unwaith eto, bydd ymwelwyr o bob oed a chefndir yn gallu mwynhau hud adeg y Nadolig ym Mharc Bute, ac rydym ar ben ein digon ein bod yn cael gwneud y cyfan eto."

"Gwnaeth ein digwyddiad cyntaf ragori ar ein holl ddisgwyliadau a disgwylir i lwybr 2022 fod yn fwy ac yn well nag erioed - bydden ni wir yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gadw lle nawr er mwyn osgoi unrhyw siom yn nes ymlaen," ychwanegodd Roxy.

O 1 Rhagfyr, bydd Parc Bute yn fôr o oleuadau laser Nadoligaidd, coed neon a gosodiadau golau fflam fydd yn parhau ar agor i ymwelwyr tan 1 Ionawr, ar ôl i docynnau i ddigwyddiad 2021 gael eu gwerthu'n llwyr.

Fel digwyddiad, bydd hefyd yn cynyddu ei waith gydag elusennau lleol eleni, gan gynnig dros 2000 o docynnau am ddim i fanciau bwyd lleol, hosbisau, ysgolion a sefydliadau anabledd. Gyda ffocws arbennig ar Hosbis y Ddinas, Caerdydd, mae'r digwyddiad hefyd yn cymryd rhan yn ymgyrch yr elusen Light Up a Life, sy'n rhoi cymorth i deuluoedd mewn profedigaeth.

Bydd y trefnwyr hefyd yn codi arian ar gyfer Prosiectau Parc Bute, a ariannodd offer taro ac offer chwarae newydd y llynedd sydd bellach wedi'u gosod yn barhaol ar y tir.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn gweithio mewn partneriaeth â'r hyrwyddwyr arobryn, From the Fields, i ddod â'r digwyddiad hudolus hwn i Gaerdydd unwaith eto."

"Cafodd llwybr y llynedd gystal croeso, gan ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld yr ewyllys da a'r hwyl Nadoligaidd yn cael eu hail-greu drwy'r Nadolig ym Mharc Bute 2022 ar adeg allweddol o'r flwyddyn i brifddinas Cymru unwaith eto."

Mae digwyddiad 2022 yn disgwyl croesawu tua 150,000 o ymwelwyr, gyda'r llwybr 1.4km hefyd yn cynnwys stondinau bwyd a diod stryd blasus wedi'u cynhyrchu'n lleol.  

Gall ymwelwyr ddewis o nifer o slotiau amser gwahanol fydd yn  rhedeg bob nos ac mae'r digwyddiad yn gwbl hygyrch i'r rhai sydd â chadeiriau olwyn a phramiau, gyda'r nod o gynnig dathliad cynhwysol o'r Nadolig i'r teulu cyfan.

Mae tocynnau ar werth i'r cyhoedd o heddiw (dydd Mercher 29 Mehefin) ac ar gael i'w harchebu ar-lein yn www.christmasatbutepark.com