Back
Cadarnhau lein-yp bandiau ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd
 Fel y dywedodd Shakespeare (bron): "Cerddoriaeth a bwyd... beth sydd ddim i'w garu?"

Wel, wrth i Ŵyl Bwyd a Diod boblogaidd Caerdydd ddychwelyd i Roald Dahl Plass y penwythnos nesaf am y tro cyntaf ers y pandemig, mae digon o'r ddau ar gael.

Ar yr ochr fwyd, bydd cyfanswm o 82 o fasnachwyr ar y safle, wedi'u gwasgaru ar draws adran marchnad ffermwyr, piazza bwyd stryd a ffair cynhyrchwyr. Ymhlith y diléits bydd llu o wneuthurwyr jin a gwirodydd, gan gynnwys Distyllfa Castell Hensol o Fro Morgannwg ac Old Bakery Gin o Lundain, y mae eu cwsmeriaid yn cynnwys Palas Buckingham.

Mae manwerthwyr bwyd yn cynnwys Emily's Kitchen Bakes, busnes un fenyw o Gaerdydd, un o selogion yr ŵyl y Purple Poppadom, a Pregos Street Food sydd wedi ennill gwobrau.

Yr un mor boblogaidd â'r bwyd, wrth gwrs, yw'r gerddoriaeth a fydd ar gael drwy gydol yr ŵyl.

Bydd bandiau'n mynd i'r llwyfan ar yr awr drwy gydol pob un o dri diwrnod yr ŵyl, o hanner dydd tan 9pm ddydd Gwener a dydd Sadwrn, ac o hanner dydd tan 6pm ar y Sul. Ymhlith yr actau a gadarnhawyd eleni mae:

·       Jack Macs Funk Pack, Darren Eeden and the Slim Pickins, Kasai Masai a J4 Jazz Band (Dydd Gwener)

·       Fiesta Resistance, Dave Cottle Trio, Bayside Boogiemen, Successors of the Mandingue (dydd Sadwrn)

·       The Sun Kings, Nadia Darby Band, Rev James and the Swingtown Cowboys (dydd Sul)

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Mae'r Ŵyl Bwyd a Diod wedi bod yn un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd Caerdydd ers amser maith ac mae llawer wedi'i cholli dros y blynyddoedd diwethaf, felly rydym yn falch iawn o'i gweld yn dychwelyd i Fae Caerdydd yr haf hwn."

Bydd Bws Caerdydd yn rhedeg gwasanaeth llawn drwy gydol y penwythnos a bydd trenau o orsaf Heol y Frenhines i'r Bae bob 12 munud a thacsis dŵr rheolaidd o Barc Bute. Bydd rheseli beiciau dros dro ychwanegol ar gael ym mhen gogleddol y Basn Hirgrwn. Mae parcio 'Bathodyn Glas' ar gael ym meysydd parcio Cei'r Fôr-Forwyn a Stryd Pen y Lanfa.

Bydd Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd am ddim ac ar agor Ddydd Gwener 1 Gorffennaf (hanner dydd-10pm), Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf (11am-10pm) a Dydd Sul, 3 Gorffennaf (11am-7pm). Am fwy o fanylion, cliciwch arhttps://www.visitcardiff.com/food-drink/