Back
Haf o Hwyl i Blant a Phobl Ifanc Caerdydd

05/07/22 

Ar ôl llwyddiant Gwên o Haf a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, bydd gŵyl Haf o Hwyl yn cael ei chynnal i blant a phobl ifanc Caerdydd dros wyliau'r haf. 

 

A picture containing textDescription automatically generated

 

Mae rhaglen Haf o Hwyl Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau rhad ac am ddim i blant 0-25 oed ledled y ddinas rhwng mis Gorffennaf a Medi. Mae ein Tîm Caerdydd sy'n Dda i Blant yn cydlynu'r rhaglen sydd â'r nod o gefnogicenedlaethau'r dyfodol yng Nghaerdydd gyda'u lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros yr haf.

 

Mae Haf o Hwyl yn rhan o Adferiad sy'n Dda i Blant Caerdydd, a ddechreuodd ar ôl y pandemig. MaeCaerdydd sy'n Dda i Blantyn cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae'n bwysig ein bod yn parhau â'n hymrwymiad iail-ymgysylltu plant a phobl ifanc Caerdydd â'u dinas wrth roi gwên ar eu hwynebau a chynnig cyfleoedd newydd i ymlacio a chael hwyl gyda ffrindiau a theulu."

 

Bydd Haf o Hwyl yn cwmpasu'r canlynol:

  • Gŵyl bythefnos ar Lawnt Neuadd y Ddinas
  • Gweithgareddau ledled y ddinas
  • Rhaglen gelfyddydol a diwylliannol wedi'i churadu gan Actifyddion Artistig

 

 

 

Prif Safle'r Ŵyl ynNeuadd y Ddinas

23 Gorffennaf i 7 Awst 

Ymunwch â ni ar Lawnt Neuadd y Ddinas ar gyfer gŵyl haf o weithgareddau llawn hwyl. Cewch gyfle i ymuno â gweithdai amrywiol, gwylio theatr wych, perfformiadau ysblennydd, cyfrannu at y gosodiad celf cymunedol, chwarae gemau, neu fwynhau'r heulwen.

Sesiynau bore Iau: Er y bydd yr ŵyl gyfan yn gynhwysol ac yn addas o ran niwroamrywiaeth, bydd sesiwn gyntaf pob dydd Iau yn sesiynau tawel wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc niwroamrywiol a'u teuluoedd.

 

Gweithgareddau Ledled y Ddinas 

23 Gorffennaf i 5 Medi 

Er mwyn cysylltu â chymaint o blant a phobl ifanc â phosibl yn ystod gwyliau'r haf, mae nifer fawr o sefydliadau'n darparu ystod eang o weithgareddau ym mhob rhan o'r ddinas. 

Mae map ar wefan Caerdydd sy'n Dda i Blant sy'n dangos pa sefydliadau sy'n cymryd rhan ym mhob ardal a manylion am sut i gymryd rhan. 

 

Dyma rai o'r gweithgareddau sydd ar gael: hyfforddiant beicio, hwylio, profiad parc dŵr, gyrwyr ifanc, triathlon iau, Darpariaeth Gymraeg - Urdd a Grantiau Cymunedol eraill.  

 

Rhaglen y Celfyddydau a gynhelir gan Actifyddion Artistig 

Drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst mae Actifyddion Artistig yn gweithio gyda phartneriaid ledled y ddinas i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol hwyl i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Y digwyddiad arbennig fydd 'Out of Doors Live' ar Lawnt Neuadd y Ddinas lle bydd rhaglen lawn o weithgareddau celfyddydol ac adloniant rhwng 23 Gorffennaf a 7 Awst. Yn ogystal â hyn, bydd y Rhaglen Gelfyddydol yn mynd allan i ganolfannau cymunedol, canolfannau ieuenctid a chanolfannau hamdden ledled Caerdydd i gynnig mwy o weithgareddau celfyddydol hwyl i bawb o bob oedran. 

 

Mae mwy o fanylion am y rhaglen yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd at wefan Caerdydd sy'n Dda i Blant:https://www.caerdyddsynddaiblant.co.uk/